Cadarnhau £11 miliwn yn ychwanegol i helpu cynghorau Cymru i adfer ar ôl stormydd
Further £11 million confirmed to help Welsh councils with storm recovery
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwerth £11.2 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol a'u helpu i adfer ar ôl y stormydd dinistriol sydd wedi taro cymunedau ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd £10.2 miliwn yn cael ei ddyrannu yn 2026-27 i gynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy i gefnogi eu gwaith adfer ar ôl llifogydd ym mis Tachwedd 2025.
Bydd bron i £1 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu eleni i Gyngor Merthyr Tudful er mwyn talu costau parhaus adfer y llyncdwll a achoswyd gan Storm Bert.
Mae'r cyhoeddiad yn adeiladu ar y £2.5 miliwn sydd eisoes ar gael i gymunedau yr effeithir arnynt yn Sir Fynwy yn dilyn Storm Claudia ym mis Tachwedd 2025.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: "Fe wnaeth stormydd diwedd 2025 achosi caledi gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, ac rwy'n benderfynol o sicrhau na ddylai unrhyw gyngor orfod talu'r costau hynny heb unrhyw gymorth.
"Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn adeiladu ar y gefnogaeth yr ydym eisoes wedi'i darparu ac yn tystio i ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i helpu cynghorau i gynorthwyo eu cymunedau i ailadeiladu ar ôl y digwyddiadau dinistriol hyn.
"Rwyf am i drigolion Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy a Merthyr Tudful wybod bod Llywodraeth Cymru yn barod i'w cynorthwyo wrth iddyn nhw barhau i adfer ac ailadeiladu."
DIWEDD