English icon English

Cadarnhau’r ail achos o’r Coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru

Wales confirms second positive case of Coronavirus (COVID-19)

Mae'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, wedi cadarnhau bod ail claf yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf coronafeirws (COVID-19). Mae'r claf yn breswylydd yn ardal awdurdod lleol Caerdydd a newydd ddychwelyd o ogledd yr Eidal, lle cafodd y firws ei gontractio. Mae'r claf yn cael ei drin mewn lleoliad sy'n briodol yn glinigol.

Dywedodd Dr Atherton:

"Gallaf gadarnhau bod ail glaf yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf coronafeirws (COVID-19). 

"Mae pob cam priodol yn cael ei gymryd i roi gofal i'r unigolyn ac i leihau'r risg o drosglwyddo’r haint i bobl eraill.

“Gallaf gadarnhau hefyd bod y claf wedi teithio’n ôl i Gymru o ogledd yr Eidal, lle’r oedd wedi dal y feirws.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i sicrhau’r cyhoedd bod Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi paratoi'n dda ar gyfer digwyddiad o’r math hwn. Gan gydweithio â’n partneriaid yng Nghymru a'r DU, mae’r ymateb yr oeddem wedi paratoi ar ei gyfer wedi cael ei roi ar waith ac mae gennym fesurau cadarn i reoli heintiau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.”

Er mwyn gwarchod cyfrinachedd y claf, ni fydd unrhyw fanylion pellach am yr unigolyn yn cael eu rhyddhau.

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

  • Symptomau tebyg i’r ffliw sydd gan y coronafeirws, gan gynnwys twymyn, peswch neu anhawster anadlu. Y dystiolaeth ar hyn o bryd yw bod y rhan fwyaf o achosion yn ymddangos yn ysgafn.
  • I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru, ewch i https://icc.gig.cymru/