Cadwch yn ddiogel ar noson tân gwyllt i osgoi ymweliad â'r ysbyty
Stay safe on bonfire night to avoid a hospital visit
Mae prif gynghorydd meddygol Cymru wedi annog pobl i gadw'n ddiogel a bod yn synhwyrol i osgoi anafiadau mewn digwyddiadau ar noson tân gwyllt.
Wrth inni nesáu at wythnos lle y disgwylir nifer uchel o anafiadau llosgi mewn adrannau achosion brys ledled Cymru, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, yr Athro Isabel Oliver:
"Gall tân gwyllt achosi anafiadau difrifol, gan gynnwys llosgiadau ac anawsterau anadlu, yn enwedig i bobl ag asthma a chyflyrau anadlol.
"Dim ond oedolion mewn amgylchedd sy'n cael ei oruchwylio'n ofalus ddylai eu defnyddio, a'r lle mwyaf diogel i'w mwynhau yw mewn arddangosfa gyhoeddus wedi'i threfnu. Sefwch yn ddigon pell yn ôl a pheidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt wedi'i danio.
"Os ydych chi'n adeiladu coelcerth, dylai fod mewn lleoliad diogel gyda'r caniatâd angenrheidiol.
"Dylai'r tân fod o faint priodol ac wedi'i leoli ymhell i ffwrdd o bobl, coed ac eiddo, gan ystyried cyfeiriad y gwynt.
"Cymerwch ofal i gadw'n ddiogel."
Ar Noson Tân Gwyllt y llynedd, cafodd gwasanaeth ambiwlans Cymru dros 1,100 o alwadau brys 999 a gwnaed 1,700 o alwadau nad oedden nhw'n rhai brys i GIG 111 Cymru.
Ers 2019, mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys, un o wasanaethau anafiadau llosgi mwyaf a phrysuraf Ewrop, wedi gweld mwy na 60 o anafiadau sy'n gysylltiedig â thân gwyllt.
Mae'r Ganolfan yn Abertawe yn darparu gofal arbenigol i tua 1,000 o bobl sy'n dioddef o anafiadau llosgi bob blwyddyn, ac mae tua hanner ohonyn nhw yn blant.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae uwchraddiad gwerth £7.7 miliwn i'r ganolfan ragoriaeth hon wedi arwain at greu tri chiwbicl llosgiadau newydd a dau giwbicl gofal dwys cyffredinol ym mhrif uned gofal dwys Treforys. Mae theatr bresennol wedi'i haddasu hefyd i helpu i drin rhagor o gleifion â llosgiadau.
Un o'r cleifion sy'n elwa o'r buddsoddi ychwanegol hwn yw Sian Morgan, o Lanelli. Cafodd Sian anaf llosgi difrifol i'w hwyneb, ei gwddf a'i breichiau, gan orchuddio 10% o'i chorff, yn sgil coelcerth yn yr ardd yn gynharach eleni.
Treuliodd 10 diwrnod yn y cyfleuster uned gofal dwys newydd yn cael triniaeth impio croen. Ar ôl hynny, treuliodd amser yn adsefydlu yn ward Tempest ac mae hi bellach yn cael triniaeth barhaus i reoli creithiau fel claf allanol yn y Ganolfan Llosgiadau.
Wrth siarad am ei phrofiad, dywedodd Sian:
"Roedd y gofal a gefais drwy gydol y cyfnod yn ardderchog, o'r eiliad y daeth yr ambiwlans hyd nes imi gael fy rhyddhau.
"Allwn i ddim bod wedi gofyn am brofiad gwell o dan yr amgylchiadau. Roedd y gofal o'r safon uchaf.
"Roedd y cyfleusterau o'r radd flaenaf hefyd. Roedd cael ystafell deuluol yno yn arbennig o ddefnyddiol gan fod fy ngŵr a'r teulu'n mynd yn ôl ac ymlaen tra roeddwn i'n aros yno. Roedd popeth yn ddi-fai."