English icon English

Caffael Tir ar gyfer Porth Wrecsam yn dechrau

Land Acquisition for Wrexham Gateway moves forward

Mae dau ddarn hynod bwysig o dir wedi eu prynu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gamau paratoadol ar gyfer datblygiad Porth Wrecsam, gan ddangos yr ymrwymiad i’r prosiect hwn, meddai Ken Skates y Gweinidog dros Ogledd Cymru. 

Mae Partneriaeth Porth Wrecsam rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Prifysgol Wrecsam Glyndŵr, Cymdeithas Clwb Pêl-droed Wrecsam a Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer adfywio ardal Ffordd yr Wyddgrug yn y dref. 

Dau faes amlwg o’r cynigion yw integreiddio y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gyda chysylltiadau gwell rhwng y gwasanaethau bws a rheilffordd a chreu stadiwm chwaraeon a digwyddiadau pwysig yn rhanbarthol ar dir y Cae Ras. 

Meddai Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru: “Dwi’n falch iawn ein bod wedi cymryd camau paratoadol hollbwysig gyda datblygiad Porth yr Wyddgrug drwy brynu dau lain o dir sy’n hanfodol i gyflawni uchelgeisiau y bartneriaeth.   

Mae’n dangos ein hymrwymiad i sbarduno’r broses o ailddatblygu’r rhan hwn o Ffordd yr Wyddgrug.  Rydyn ni yn dangos ein penderfyniad i gynnal y momentwm, hyd yn oed yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, drwy brynu y ddau safle hollbwysig yma.   

“Rydyn ni hefyd yn gwneud datganiad cadarn o fwriad – bod Llywodraeth Cymru yn gadarn y tu ôl i uchelgeisiau’r Bartneriaeth hon ac yn benderfynol o sicrhau newid gwirioneddol ac ysbrydoledig ar y safle hwn.” 

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Er mai dechrau ydym, mae prynu y tir hwn wedi bod yn gam hynod bwysig. 

“Mae’n dangos bod y bartneriaeth o ddifrif ynghylch y prosiect, ac am drawsnewid dyfodol canol tref Wrecsam yn rhywbeth gwirioneddol arbennig – o fudd i’r gymuned gyfan, gan wneud yr orsaf reilffordd yn haws ei chyrraedd a sicrhau mai Stadiwm y Cae Ras yw’r canolbwynt ar gyfer digwyddiadau y gall Gogledd Cymru gyfan eu mwynhau.   

“Dwi am ddiolch i’n partneriaid – gan gynnwys Ken Skates a Llywodraeth Cymru, yr Athro Maria Hinfelaar a Phrifysgol Glyndŵr, a Spencer Harris a’r bwrdd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam – am weithio’n ddi-flino ochr yn ochr â ni i gyrraedd y cam ymalen pwysig hwn. 

“Mae Wrecsam a gweddill Cymru yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd oherwydd  Covid-19, felly mae’n bwysicach nag erioed i barhau i symud ymlaen gyda prosiectau ysbrydoledig fel hyn.” 

Gan groesawu datganiad y Gweinidog, dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae’n wych gweld y weledigaeth uchelgeisiol hon ar gyfer y Porth newydd i Wrecsam yn dod yn wir, gyda camau ymarferol yn cael eu cymryd a’r Llywodraeth yn ymrwymo gyda’u buddsoddiad.  Yn y brifysgol, bydd y staff a myfyrwyr yn croesawu’r cyfle hwn ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid i gyflawni’r cynlluniau.”

Ar ran Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Wrecsam, dywedodd Spencer Harris: “Mae hwn yn gam hollbwysig ar y daith i ail-ddatblygu eisteddle’r KOP.  Mae prynu y tir yn union y tu ôl i’r KOP yn dangos ymrwymiad parhaus ac uchelgais Llywodraeth Cymru sy’n cyd-fynd ag uchelgais y partneriaid eraill.  Er bod y pethau hyn yn cymryd amser, bydd y cyhoeddiad hwn yn dangos i bobl Gogledd Cymru y bydd safle chwaraeon o safon uchel ar gyfer y rhanbarth ar garreg eu drws unwaith eto fel rhan o’r adfywio ehangach yn yr ardal.” 

Y lleiniau tir sydd wedi’u prynu yw hen safle arddangos y modurdy ar gyffordd Crispin Lane a Ffordd yr Wyddgrug – gan gynnwys y tir yn union y tu ôl i Eisteddle Kop ar y Cae Ras.  Mae disgwyl i’r tir hwn gynnwys yn rhannol eisteddle newydd ar y cae pêl-droed.  Yr ail ddarn o dir yw hen adeilad Countrywide Stores, dros ffordd i’r fynedfa i Orsaf Gyffredinol Wrecsam.  Y bwriad yw ei ddatblygu yn bennaf i wella’r cysylltiad rhwng y drafnidiaeth fysiau a rheilffordd, a datblygiadau eraill.