English icon English
2-188

Camau syml i helpu eich Practis Meddyg Teulu i’ch helpu chi

Simple steps to help your GP Practice help you

Wrth i’r achosion o’r coronafeirws, sydd bellach yn bandemig, barhau i ddatblygu, bydd y pwysau ar holl wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cynyddu. Rydym wedi llunio pum cam syml i’ch helpu chi i gael y gofal iechyd a’r cymorth cywir. Drwy ddilyn y camau hyn, gallwch helpu eich meddygfa leol ar yr un pryd.

1. Dilynwch y cyngor diweddaraf ynglŷn â’r coronafeirws a pheidiwch ag ymweld â’ch practis meddyg teulu os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref symptomau – gwres neu beswch newydd a pharhaus. Nid oes angen ichi roi gwybod i’r feddygfa os oes gennych y symptomau hyn.

  1. Mae meddygfeydd wedi newid y ffordd maen nhw’n gweithio. Maent wedi rhoi mesurau newydd ar waith i ddiogelu staff yn y feddygfa. Mae’r drysau nawr ar gau a byddant yn cael eu hagor ar gyfer unigolion sydd wedi trefnu apwyntiad. Dim ond ar ôl cynnal ymgynghoriad dros y ffôn neu fideo yn gyntaf y bydd apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu gwneud gyda gweithiwr cymorth iechyd proffesiynol.

  1. Bydd clinigydd cymwys yn cysylltu â phob un sydd ag apwyntiad rheolaidd neu apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw i asesu a oes gennych symptomau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws. Os na fydd gennych y symptomau hynny, bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal fel y cynlluniwyd.

  1. Os bydd angen presgripsiynau amlroddadwy arnoch, peidiwch â mynd i’r feddygfa. Gofynnwch amdanynt ar-lein neu, os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, dros y ffôn os yw’r feddygfa wedi cytuno. Fel arall, gallech hefyd roi cais yn y blwch gollwng a glustnodwyd gan y feddygfa. Os byddwch yn ffonio, dylech sicrhau bod rhestr o’r meddyginiaethau rydych chi eisoes yn eu cymryd gennych chi wrth law. Gofynnwyd i bob practis meddyg teulu egluro wrth gleifion beth yw eu trefniadau ar gyfer archebu presgripsiynau amlroddadwy. Gallai fod angen mwy o amser nag ydych chi’n gyfarwydd ag ef i brosesu ceisiadau am bresgripsiynau amlroddadwy felly cadwch hynny mewn cof pan fyddwch yn archebu. Os ydych chi’n hunanynysu, gofynnwch i rywun arall gasglu eich presgripsiwn ar eich rhan.

  1. Os oes gennych ymholiadau arferol, peidiwch â ffonio eich meddygfa yn gynnar yn y bore. Ffoniwch yn hwyrach yn ystod y dydd pan fydd gan staff y practis fwy o amser i ymateb i’ch galwad. Efallai na fydd gan y feddygfa yr un nifer o staff ag arfer, felly peidiwch â ffonio i ofyn am bresgripsiynau amlroddadwy os nad oes wir angen.

  1. Rydym yn gofyn i bawb sydd â symptomau o’r coronafeirws – gwres neu beswch newydd a pharhaus – i aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am saith niwrnod o’r diwrnod pan ddechreuodd y symptomau. Os ydych chi’n byw gyda rhywun sydd â symptomau, dylech chithau hefyd aros gartref am 14 diwrnod. Nid oes angen ichi ddweud wrth eich meddyg teulu na galw 111. Os bydd eich symptomau yn gwaethygu neu os na fyddwch yn teimlo’n well ar ôl saith niwrnod, ewch i dudalen 111 ar-lein y GIG neu ffoniwch 111. Os oes argyfwng meddygol, ffoniwch 999.

  1. Nid oes profion yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y gymuned ar gyfer y coronafeirws. Gallai hyn newid maes o law – byddwn yn rhoi gwybod ichi os bydd hynny’n digwydd.