Canfod achosion o'r tafod glas yng Ngwynedd
Bluetongue cases identified in Gwynedd, Wales
Mae’r tafod glas seroteip 3 (BTV-3) wedi cael ei ganfod mewn tair dafad sydd wedi’u symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.
Dyma'r tro cyntaf i'r Tafod Glas-3 gael ei ganfod yng Nghymru ac mae'n dilyn darganfod achosion o BTV-3 yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am y clefyd a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.
Mae'r tafod glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai mathau o wybed sy'n brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas).
Nid yw'r tafod glas yn effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.
Mae ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal ar y fferm sydd wedi’i heffeithio i benderfynu a oes angen mesurau rheoli ychwanegol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol, Gavin Watkins: "Mae’r achosion sydd wedi’u canfod yng Ngwynedd mewn anifeiliaid sydd wedi’u prynu i Gymru.
“Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i atal y clefyd rhag lledaenu o’r tair dafad yma, a’n nod ni o hyd yw cadw Cymru’n rhydd o’r tafod glas.
“Mae’n bwysig siarad ȃ’ch milfeddyg, a phrynu anifeiliaid o ffynonellau diogel er mwyn diogelu ein buchesau a’n heidiau ac atal unrhyw ymledu pellach ar y clefyd allan o Gymru.”
"Byddwn yn annog pob ffermwr a phawb arall sy'n cadw anifeiliaid cnoi cil a chamelidau i gadw llygad am arwyddion o’r tafod glas ac i roi gwybod i APHA am amheuaeth o unrhyw achosion ar unwaith.
“Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r clefyd gyda milfeddygon a'r diwydiant ac yn gwerthfawrogi eu help i gyfathrebu’r risgiau i geidwaid anifeiliaid yng Nghymru.
Nodiadau
Mae'r tafod glas yn glefyd hysbysadwy ac os ydych chi'n amau bod eich anifeiliaid wedi dal y clefyd, rhowch wybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith.
Mae gwybodaeth am arwyddion clinigol y tafod glas a'r camau i'w cymryd ar gael yma: (Feirws y Tafod Glas)
Gall ffermwyr helpu i atal y clefyd drwy:
- sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol gyda statws iechyd dibynadwy
- ymarfer bioddiogelwch da ar eu safleoedd
- parhau i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i APHA os ydyn nhw’n amau bod y clefyd ar eu hanifeiliaid
Dylai ceidwaid sy’n ystyried dod ag anifeiliaid neu ddeunyddiau cenhedlu o barthau rheoli'r tafod glas, ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr, neu o wledydd eraill sydd wedi’u heffeithio, siarad â'u milfeddyg i gadarnhau bod ganddynt yr hawl i wneud hyn, a beth yw'r risg o wneud. Dylid gwneud hyn bob amser cyn penderfynu symud neu fewnforio anifeiliaid.
Os ydych yn credu bod y tafod glas ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith. Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn ymchwilio i’r achosion hyn.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar sefyllfa bresennol y tafod glas ar gael hefyd ar wefan Ruminant Health & Welfare.