Canllawiau cynllunio newydd i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd yn well
New planning guidance to better protect communities from flooding
Heddiw, mae canllawiau wedi'u cyhoeddi sy'n amlinellu'r ffyrdd y gall y system gynllunio helpu cymunedau a phobl i osgoi effeithiau llifogydd, ac i ddod yn fwy cydnerth pan na ellir eu hosgoi.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 diwygiedig yn cefnogi cynllunwyr i asesu risgiau llifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb, yn ogystal â'r perygl o erydu arfordirol.
Mae hefyd yn darparu cyngor ar addasu i'r perygl o lifogydd a byw gyda'r perygl hwnnw.
Wrth gyhoeddi'r TAN, rhybuddiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans fod amlder a difrifoldeb llifogydd yn cynyddu ac mae disgwyl iddo gynyddu ymhellach o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd:
"Mae stormydd diweddar wedi tynnu sylw at yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar fywydau a busnesau pobl ledled Cymru. Gallant ddigwydd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, a hynny'n aml heb fawr ddim rhybudd gan arwain at ganlyniadau difrifol
"Dyna pam mae'n hanfodol bod y system gynllunio yn cydnabod yn llawn tebygolrwydd ac effeithiau posibl digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol.
"Mae'r TAN yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg gan ddefnyddio'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio i gydbwyso'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau llifogydd yn erbyn pa mor agored i niwed yw’r datblygiad.
Yn y bôn, po uchaf yw'r tebygolrwydd o lifogydd a'r mwyaf agored i niwed yw datblygiad, y mwyaf cyfyngol yw'r polisi."
Mae'r canllawiau newydd yn cael effaith ar unwaith tra bo cyfnod pontio ar waith ar gyfer ceisiadau sydd eisoes yn cael eu hystyried.