English icon English

Canllawiau newydd ar gyfer Ymweliadau ysbyty yn ystod pandemig y Coronafeirws

New guidelines for hospital visiting during Coronavirus outbreak

Caiff canllawiau diwygiedig newydd ar gyfer ymweld ag  ysbytai GIG Cymru eu cyhoeddi ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau a gyhoeddwyd gynt.

Mae'r canllawiau diwygiedig yn nodi'r llinell sylfaen ar gyfer ymweliadau yng Nghymru yn ystod y pandemig, ond yn caniatáu i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau  wyro oddi wrth y canllawiau.

Mae'r hyblygrwydd hwn yn deillio o'r newid yn y sefyllfa o ran trosglwyddiad y coronafeirws ledled Cymru, gydag amrywiadau sylweddol mewn trosglwyddiad cymunedol ar draws gwahanol rannau o Gymru a gwahaniaethau yng nghyfradd y trosglwyddiad nosocomiaidd.

Mae'r canllawiau newydd yn caniatáu i ddarparwyr gofal iechyd asesu ffactorau lleol a gweithio gyda thimau atal a rheoli haint lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gytuno ar drefniadau ymweld.

Gall darparwyr gofal iechyd wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i:

  1. lefelau cynyddol o drosglwyddiad Covid-19 yn eu hardaloedd, gan gynnwys lefelau a arweiniodd at gyfyngiadau symud cenedlaethol a/neu dystiolaeth o drosglwyddiad nosocomiaidd mewn lleoliad penodol; neu
  2. lefelau trosglwyddo sy'n gostwng yn eu hardal leol.

Yn ogystal â chaniatáu ar gyfer yr hyblygrwydd hwn, mae'r canllawiau wedi cael eu diwygio ar ôl gwrando ar adborht gan fenywod a theuluoedd ac ymgynghori â Penaethiaid Bydwreigiaeth a gwasanaethau Sonograffeg a Radiograffeg.Bydd ymweliadau mewn gwasanaethau mamolaeth bellach yn seiliedig ar asesu risg gan y byrddau iechyd.  Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth ffactorau amgylcheddol lleol megis maint ystafelloedd, y gallu i gadw pellter cymdeithasol a risgiau atal a rheoli haint wrth alluogi partneriaid i gadw cwmni i fenywod beichiog a mamau newydd yn ddiogel. Dylid defnyddio'r dull gweithredu hwn sydd wedi'i asesu yn ôl risg gyda gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol, timau atal a rheoli haint lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff pob menyw ei chefnogi i gael o leiaf un partner gyda hi pan fydd yn esgor , yr enedigaeth ei hun a'r cyfnod ar ôl yr enedigaeth, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig iawn o amgylchiadau.

Mae'r canllawiau diwygiedig hefyd yn cydnabod y gallai fod ar rai pobl angen cynorthwyydd cymorth hanfodol ar gyfer cymorth ychwanegol penodol ee gweithiwr cymorth neu gyfieithydd ar y pryd.  Ni ddylid categoreiddio cynorthwywyr cymorth hanfodol fel ymwelwyr. Mewn rhai amgylchiadau, lle maent yn cael gofal a chymorth gan aelod o'r teulu neu bartner, gallant enwebu'r person hwn fel eu cynorthwyydd cymorth hanfodol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Rydyn ni'n cydnabod bod y cyfyngiadau ar ymweld yn cael effaith enfawr ar gleifion, eu teuluoedd a'u hanwyliaid. Rydyn ni wedi cyhoeddi newidiadau pellach i'r canllawiau heddiw i roi'r hyblygrwydd i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i lefelau lleol o drosglwyddiad Covid-19. Mae'n bwysig cofio nad yw'r feirws wedi diflannu a bod iechyd, diogelwch a llesiant cleifion a staff y GIG yn flaenoriaeth hollbwysig ar gyfer Llywodraeth Cymru a darparwyr gofal iechyd. Bydd angen i ddewisiadau anodd gael eu gwneud o hyd ond rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau diwygiedig yn rhoi mwy o hyblygrwydd  i ddarparwyr gofal iechyd. ”