Canllawiau newydd i gefnogi darparwyr addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru yn sgil y coronafeirws
New coronavirus guidance to support providers of higher education and further education in Wales
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig i gefnogi addysg uwch, addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gweithle wrth iddynt barhau i baratoi ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt.
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, sydd wedi cyhoeddi’r ddwy set o ganllawiau, a phwysleisiodd mai iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr a dysgwyr fydd y brif flaenoriaeth bob amser.
Mae’r ddwy set o ganllawiau yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar fesurau diogelu, gan gynnwys sut i fanteisio ar raglen profi, olrhain a diogelu Llywodraeth Cymru a chyngor ar gyfarpar diogelu personol.
Dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n falch o gael cyhoeddi’r canllawiau hyn heddiw.
“Rwy’n sylweddoli, wrth gynllunio ar gyfer yr hydref a thu hwnt, y bydd yn rhaid i sefydliadau a darparwyr dysgu ddod o hyd i gydbwysedd rhwng bodloni anghenion addysgol dysgwyr a sicrhau iechyd, diogelwch a lles myfyrwyr, dysgwyr a staff.
“Bydd y canllawiau a gyhoeddwyd heddiw yn helpu darparwyr i wybod beth yw’r mesurau diogelu cywir a blaenoriaethu’r camau i’w cymryd er mwyn cadw lefel trosglwyddo COVID-19 mor isel â phosibl.
“Iechyd, diogelwch a lles y teulu addysg cyfan yma yng Nghymru fydd y brif flaenoriaeth bob amser wrth inni baratoi i gefnogi myfyrwyr a staff a chynllunio i ailgydio mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb wrth i’r cyfyngiadau lacio.”