English icon English

Canllawiau newydd i gefnogi dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi

New guidance to support September schools return

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig i gefnogi ysgolion, cyn i’r holl ddisgyblion ddychwelyd ym mis Medi.

Ddydd Iau diwethaf, roedd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi y gallai’r holl ddysgwyr ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref.

Bydd y canllawiau hyn yn helpu ysgolion, awdurdodau lleol a lleoliadau i weithredu’n llawn yn yr hydref – ac mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys arweiniad newydd ar grwpiau cyswllt.

Bydd £29 miliwn ar gael gan Lywodraeth Cymru i ‘recriwtio, adfer a chodi safonau’, mewn ymateb i’r pandemig.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

 “Mae’r canllawiau diwygiedig hyn yn adlewyrchu’r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf. Ac mae’r cyngor yn cynnig llwybr canol rhwng canllawiau cenedlaethol strwythuredig a hyblygrwydd lleol.

“Eleni, rydyn ni wedi dysgu bod yn rhaid inni fod yn barod ar gyfer amrywiaeth o senarios. Mae’r canllawiau hyn yn nodi pa flaenoriaethau dysgu a ddylai barhau i fod yn gyson, ni waeth ble mae’r dysgu’n cael ei gynnal.

“Bydd hynny’n helpu ein hysgolion a’n lleoliadau addysg i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa ar gwricwlwm eang a chytbwys a’u bod yn parhau i wneud cynnydd wrth ddysgu.

 “Hoffwn ddiolch i’n hawdurdodau lleol a’r undebau llafur am eu cyfraniad at y canllawiau hyn. Ac wrth gwrs, diolch o galon i staff ein hysgolion am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u gwaith caled dros y misoedd diwethaf, sydd wedi sicrhau ein bod ni’n barod i bawb ddychwelyd ym mis Medi.”

Nodiadau i olygyddion

Canllawiau: 
https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddysgu-mewn-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19