English icon English

Canllawiau wedi'u cyhoeddi i helpu ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant

Guidance published to help schools, colleges and childcare settings

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion er mwyn iddynt allu cynllunio i ddisgyblion ddychwelyd ar 29 Mehefin i "ailgydio, dal i fyny, paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi". Cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer lleoliadau addysg bellach hefyd, y mae disgwyl iddynt ailagor ar gyfer rhywfaint o ddysgu wyneb yn wyneb o 15 Mehefin. 

Mae'r canllawiau, sef 'Diogelu Addysg', yn rhoi cyngor ymarferol ac ar ddysgu ac addysgu er mwyn paratoi ysgolion ar gyfer dychwelyd yn raddol cyn diwedd tymor yr haf, gan gefnogi lleoliadau i gynyddu eu gweithrediadau'n ddiogel.

Bydd pob ysgol yn agor yn raddol. Bydd pob grŵp oedran yn cael eu rhannu'n grwpiau bach gydag amseroedd dechrau ac egwyl gwahanol. Bydd hyn yn golygu mai traean o'r disgyblion, ar y mwyaf, fydd bresennol ar y tro.

Mae'r canllawiau ar gyfer ysgolion wedi'u rhannu'n ddwy ran: ceir adran ar faterion gweithredol ac adran ar brofiadau dysgu. Ategir y canllawiau gan dudalen Cwestiynau Cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin wrth iddynt godi. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi canllawiau i leoliadau gofal plant heddiw, er mwyn helpu'r sector i agor yn ehangach a sicrhau bod darparwyr yn gallu gweithio'n ddiogel.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

"Rydym i gyd yn gwybod y bydd treulio cyfnod mor hir i ffwrdd o'r ysgol, ffrindiau a'r dosbarth yn cael effaith niweidiol ar les a dysgu ein pobl ifanc. Dyma pam rydym wedi penderfynu y bydd rhan fwyaf o ddysgwyr yn gallu ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

"Mae sicrhau cydbwysedd rhwng darparu canllawiau iechyd cyhoeddus cenedlaethol a galluogi hyblygrwydd lleol wedi bod yn hollbwysig wrth ddatblygu'r canllawiau hyn. Caiff rhagor o fanylion a chymorth eu darparu wrth i ysgolion ac awdurdodau lleol fynd ati i lunio cynlluniau manwl.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r penaethiaid, staff, undebau a rhieni sydd eisoes wedi rhannu eu cynlluniau a'u cynigion. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y mwyafrif o ddisgyblion a rhieni'n gallu manteisio ar y cyfle hwn mewn ffordd ddiogel, strwythuredig a synhwyrol.

"Wrth i ni barhau i gadw Cymru'n ddiogel, byddwn yn parhau i ddatblygu'r canllawiau dros dymor yr haf ac ym mis Medi gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf. 

"Iechyd a lles ein dysgwyr a staff yw ein blaenoriaeth bob amser. Mae ysgolion, colegau a lleoliadau eraill wrthi’n gweithio'n galed i gynllunio ar gyfer caniatáu i’w dysgwyr ddychwelyd ac i roi mesurau diogelu priodol yn eu lle. Bydd y canllawiau a gyhoeddwyd heddiw yn eu helpu i wneud hyn.

"Drwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddysgwyr wrth iddynt ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi."