Canolfan breswyl i droseddwyr benywaidd yng Nghymru
Female offenders to get Residential Centre in Wales
Heddiw, croesawodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, y cyhoeddiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Lucy Frazer y bydd y ganolfan breswyl gyntaf i droseddwyr benywaidd yn cael ei lleoli yng Nghymru.
Mae llawer o fenywod yn cael eu hanfon i’r carchar, yn aml yn dilyn troseddau diannod lefel isel, a’r carchariad yn cael effaith drychinebus arnyn nhw a’u teuluoedd.
Croesawodd y Gweinidog hefyd £2.5 miliwn o gyllid ychwanegol i ddatblygu’r Strategaeth Troseddwyr Benywaidd ymhellach yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y Ganolfan Breswyl gyntaf i Fenywod yng Nghymru yn darparu ar gyfer menywod agored i niwed, gydag anghenion cymhleth, a fyddai fel arall wedi’u dedfrydu i garchar.
Bydd hefyd yn ceisio mynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd y troseddu, fel camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, a chefnogi menywod i fynd yn ôl i fywyd yn y gymuned.
Dywedodd Jane Hutt: “Rwyf wrth fy modd y bydd y ganolfan breswyl gyntaf yn dod i Gymru. Mae menywod Cymru angen cyfleuster diogel sy’n addas i’r diben, ac yn eu galluogi i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd, yn enwedig eu plant. Mae’r argyfwng COVID-19 presennol wedi amlygu hyn fwy fyth.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso’n galed am ganolfan breswyl newydd i fenywod yng Nghymru, ac rwy’n falch ein bod ni yn awr wedi cael cadarnhad y bydd y cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt. Mae’r ganolfan breswyl yn rhan ganolog o’r Glasbrint Troseddwyr Benywaidd.
“Fe fyddaf yn gweithio’n agos gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a phartneriaid allweddol eraill i gytuno ar yr amserlen, y dyraniadau adnoddau a lleoliad addas ar gyfer y cyfleuster hwn. Hoffwn dalu teyrnged i’r bartneriaeth ragorol rhyngom hyd yma. Byddwn yn parhau i gydweithio i gyflawni model effeithiol, sy’n briodol i anghenion Cymru.”