Canolfan seiber NDEC yn neilltuo £1m yn ardal Glynebwy
NDEC cyber centre injects £1m into Ebbw Vale area
Mae canolfan seiber arloesol Cymru wedi cyrraedd ei charreg filltir gynta ac yn symud yn dalog at ei llwyddiant busnes mawr cyntaf. Dyna fydd Gweinidog yr Economi , Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates, yn ei gyhoeddi heddiw i nodi blwyddyn gyntaf y Ganolfan Genedlaethol Manteisio ar Dechnoleg [NDEC] gwerth £20m.
Yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfywio'r cymoedd a datblygu'r economi sylfaenol, bydd y Gweinidog yn datgelu hefyd bod yr NDEC eisoes wedi dod â £1m i’r economi leol gyda 20 o'i 53 o gyflenwyr lleol yn dod o Lynebwy a bod 90 y cant o staff ei busnesau newydd yn dod o'r ardal.
Mae Llywodraeth Cymru a’r arweinydd technoleg Thales ill dau wedi ymrwymo £10m i sefydlu’r ganolfan.
Bydd arweinwyr byd busnes a chyhoeddus Cymru hefyd yn bresennol i glywed y cyhoeddiad bod Thales wedi cael contract sylweddol gyda GE Steam Power, un o brif gwmnïau pŵer y byd, i sicrhau diogelwch seiber ei gyfleusterau craidd. Daw elfennau pwysig o'r gwaith hwnnw i Gymru, i'w wneud gan y tîm yn yr NDEC.
Bwriad yr NDEC yw gwneud gwaith ymchwil a datblygu blaengar, cyflogi pobl leol trwy waith maes addysgol a meithrin arbenigedd seiber ar gyfer cyflogwyr mawr a busnesau bach yng Nghymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru.
Gan sôn am lwyddiant NDEC hyd yma, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:
"Flwyddyn ers cyhoeddi bod Thales yn dod i Lynebwy i ddatblygu'r NDEC gyda ni, rwy'n falch iawn bod y prosiect yn cyrraedd ei gerrig milltir, eisoes wedi buddsoddi £1m yn yr economi leol ac yn gweithio i gyflenwi rhan o gontract newydd mawr ar gyfer Thales.
"Mae galluoedd cychwynnol yr NDEC eisoes yn agored i fusnes gyda chyfleuster seiber a busnes o'r radd flaenaf, a rhaglen addysg ar gynnydd gyda chysylltiadau â busnesau lleol.
"O fyfyrwyr PhD i brentisiaid, ac o staff i gyflenwyr, mae'r NDEC yn gatalydd ar gyfer twf technoleg a llwyddiant economaidd yn y cymoedd. Mae'r ganolfan yn ganolog i fenter y Cymoedd Technoleg a fydd yn helpu i weddnewid economi'r De yn un o ymchwil a datblygu, arloesi a ffyniant tymor hir. Bydd y ganolfan yn rhoi sylfaen wych ar gyfer gwneud hyn."
Dywedodd Eluned Morgan AC, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol:
"Mae'r NDEC wedi helpu i godi proffil Cymru ar fap technoleg ddigidol y byd ac rwy'n falch iawn clywed bod Thales yn dod â'i gontract newydd gyda GE Steam Power i Lynebwy.
"Dyma ragor o dystiolaeth eto bod enw da Cymru'n dal i dyfu fel gwlad technoleg a chanolfan seiber o fri, ac mae'n fantais bellach i gwmnïau seiber ddweud eu bod yn fusnesau o Gymru.
"Rwy'n disgwyl ymlaen at drafod rhagor o gyfleoedd i berthynas Thales â Chymru pan fyddaf yn cwrdd â'u pennaeth diogelwch seiber, Laurent Maury, yn yr Unol Daleithiau yr wythnos hon."
Dywedodd Victor Chavez. Prif Weithredwr Thales UK:
"Rydym yn gweld Cymru, a'r NDECD yn arbennig, yn rhan hanfodol o bresenoldeb Thales yn y DU. Mae'r NDEC yn hanfodol i ddatblygu galluoedd diogelwch digidol fydd yn dod â gwaith cenedlaethol a rhyngwladol i Lynebwy. Y sgiliau hyn fydd wrth wraidd sicrhau systemau Technoleg Weithredol hanfodol fel y rheini sy'n cael eu datblygu gan GE Steam Power i sicrhau eu bod yn gallu goroesi yn yr amgylchedd seiber cyfoes. Mae'r NDEC yn gyfleuster unigryw i Gymru, ac rydym am gael y gorau o'r bartneriaeth arloesol hon rhwng llywodraeth, diwydiant ac academia."