Ymweliadau dan do â chartrefi gofal i ailddechrau yfory
Indoor care home visits to resume from tomorrow
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal oedolion a phlant yn cael ailddechrau yfory [dydd Gwener 28 Awst], ddiwrnod yn gynt na’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Pwysleisiodd y Gweinidog eto mai canllaw yw’r dyddiad ailagor ac mai penderfyniad pob sefydliad unigol yw pryd yn union y bydd modd iddynt ddechrau hwyluso ymweliadau yn ddiogel eto.
Mae canllawiau swyddogol – a gyhoeddir yfory hefyd – wedi’u llunio ar y cyd â’r sector i helpu cartrefi i reoli risg a rhoi trefniadau pwrpasol ar waith sy’n addas i’w lleoliad nhw ac anghenion eu preswylwyr.
Dywedodd y Gweinidog:
“Bydd y cadarnhad hwn yn newyddion da iawn i gymaint o bobl ledled Cymru. Mae cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi bod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag effeithiau niweidiol COVID-19 ond rydym yn llwyr werthfawrogi’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar breswylwyr a’u hanwyliaid.
“O ystyried y manteision i les preswylwyr, rwy’n gobeithio y gall llawer o gartrefi ddiweddaru eu gweithdrefnau yn gyflym i allu cynnal ymweliadau dan do yn ddiogel. Serch hynny, rwy’n gwerthfawrogi’r pryder a fydd gan rai darparwyr ynghylch y newid arwyddocaol hwn, ac y gall fod angen ychydig mwy o amser ar rai i roi trefniadau ar waith.
“Byddwn i’n annog teuluoedd a chyfeillion i fod yn amyneddgar wrth i gartrefi ddechrau gweithio drwy’r ystyriaethau ymarferol i hwyluso ymweliadau dan do unwaith eto.”
Mae’r newid a wneir yfory i’r rheoliadau yn berthnasol hefyd i hosbisau a llety diogel i blant a phobl ifanc.