English icon English
Parent carer and son-4

‘Mae gofalu yn fater i bawb’

‘Caring is everyone’s business’

‘Mae gofalu yn fater i bawb’ – dyna’r neges wrth i Gymru adnewyddu ei hymrwymiad i ofalwyr di-dâl heddiw [Dydd Mawrth 23 Mawrth] drwy gyhoeddi strategaeth a blaenoriaethau cenedlaethol, flwyddyn wedi’r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yng Nghymru.

Amcangyfrifir fod oddeutu 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, a llawer o’r rhain wedi dechrau gofalu am y tro cyntaf o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Mae’r strategaeth newydd yn ganlyniad i waith ymgysylltu gyda gofalwyr di-dâl a’r grwpiau a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli.

Mae’n amlinellu sut y mae Cymru eisoes yn cefnogi gofalwyr di-dâl drwy wahanol ffynonellau cyllid, yn amlinellu’r gefnogaeth ar gyfer cyflwyno cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc, a hefyd yn amlinellu blaenoriaethau cenedlaethol diwygiedig.

Y pedair blaenoriaeth genedlaethol yw:

  • Adnabod a chydnabod gofalwyr di-dâl – rhaid i bob gofalwr di-dâl deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi i wneud dewis ar sail gwybodaeth am y gofal y mae’n ei ddarparu, ac yn cael mynediad at y cymorth y mae ei angen wrth iddo ofalu a phan ddaw’r rôl ofalu i ben;
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth – mae’n hanfodol bod gan ofalwyr di-dâl fynediad at yr wybodaeth a’r cyngor cywir ar yr adeg gywir ac mewn fformat priodol;
  • Helpu i fyw yn ogystal â gofalu – mae’n rhaid rhoi cyfle i bob gofalwr di-dâl gymryd seibiant o’i rôl ofalu i’w alluogi i ofalu am ei iechyd a’i lesiant ei hun a’i alluogi i fyw yn ogystal â gofalu;
  • Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle – dylid annog cyflogwyr a lleoliadau addysg / hyfforddiant i addasu eu polisïau a’u harferion gan alluogi i ofalwyr di-dâl weithio a dysgu ochr yn ochr â gofalu.

Yn dilyn y strategaeth, bydd cynllun cyflawni manwl yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2021, a bydd datblygiad y cynllun hwn yn cael ei lywio gan y bobl y mae wedi’i gynllunio i’w cefnogi.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae gofalu yn fater i bawb – mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn gofalu am rywun ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae’n rhaid inni werthfawrogi gofalwyr di-dâl, a chydnabod eu bod yn rhan hanfodol o system iechyd a gofal Cymru, drwy eu cefnogi gorau y gallwn.”

“Rwy’n gobeithio y bydd y strategaeth hon a’r cynllun cyflawni a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref yn llywio gwaith partneriaeth sy’n gweithio tuag at gymdeithas sy’n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir i fyw yn dda a chyflawni eu nodau llesiant eu hunain."

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Simon Hatch:

“Rydym yn croesawu’r strategaeth newydd hon a’r ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr di-dâl. Rydym yn falch bod y strategaeth yn adlewyrchu’r blaenoriaethau y mae gofalwyr wedi’u rhannu gyda ni, yn enwedig dros y flwyddyn anodd ddiwethaf. Mae’n hanfodol nawr bod y cynllun cyflawni a fydd yn dilyn y strategaeth hon yn amlinellu’r gwahaniaeth ymarferol y bydd yn ei wneud i fywydau gofalwyr. Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn parhau i weithio’n galed mewn partneriaeth â gofalwyr a’n holl bartneriaid i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y maent yn ei haeddu.”

Nodiadau i olygyddion

[Yn fyw o 09.00 ar dydd Mawrth 23]

Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dal: https://llyw.cymru/strategaeth-ar-gyfer-gofalwyr-di-dal