English icon English
Food and Fun Logo-2

Carreg filltir deng mlynedd ar gyfer cynllun gwyliau'r haf 'Bwyd a Hwyl'

Ten-year milestone for ‘Food and Fun’ summer holiday scheme

Mae gwyliau’r haf wedi dechrau, ac unwaith eto bydd y cynllun 'Bwyd a Hwyl' yn cynnig brecwast a chinio maethlon, yn ogystal â gweithgareddau difyr, am ddim i ddysgwyr eu mwynhau yn ystod gwyliau'r haf.

Mae eleni yn arbennig iawn gan ei bod yn nodi pen-blwydd deng mlynedd ers lansio'r rhaglen gyntaf – gyda'r nod o hyrwyddo byw'n iach, cefnogi lles dysgwyr a meithrin cysylltiadau gwell â theuluoedd ac ysgolion yn ystod gwyliau'r haf.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel cynllun peilot gan Gyngor Caerdydd wedi ehangu i gynllun 'Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, a gyflwynir mewn ysgolion ledled Cymru, ac sydd wedi'i gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Yr haf hwn bydd y cynllun yn cael ei gynnal eto ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol mewn tua 230 o ysgolion, gyda dros 14,000 o leoedd ar gael bob dydd.

Mae dros £5.8m o gyllid wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen eleni, sy'n cynnwys £1m ychwanegol, a phob cynllun yn darparu o leiaf deuddeg diwrnod o gymorth i blant a theuluoedd yn eu cymuned.

Dros y deng mlynedd diwethaf mae'r cynllun wedi darparu dros 800,000 o leoedd 'Bwyd a Hwyl' i blant elwa ar frecwast a chinio iach am ddim, gan gynnwys dysgu am fwyd a maeth, a manteisio ar amrywiaeth o weithgareddau gan ystod eang o bartneriaid cenedlaethol megis Cyrff Llywodraethu Chwaraeon Cymru, Cadw, a Llenyddiaeth Cymru. Mae'r gweithgareddau cyfoethogi yn cynnwys dosbarthiadau coginio, adeiladu cuddfannau, chwaraeon, cerddoriaeth a llawer mwy.

Mae'r ysgolion sy'n cynnal sesiynau 'Bwyd a Hwyl' yn gwahodd teuluoedd i gofrestru ar gyfer y cynllun yn ystod tymor yr haf.

Mae pryd wythnosol i'r teulu hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o'r cynllun, er mwyn dod â theuluoedd at ei gilydd yn ystod gwyliau'r haf.

I ddathlu'r garreg filltir, ymwelodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, â'r cynllun sy'n cael ei gynnal yn Ysgol Gynradd Pantside.

Yn ystod y digwyddiad cymerodd ran mewn sesiwn goginio lle'r oedd y plant yn gwneud cebabs ffrwythau. Yn dilyn hynny, buon nhw'n chwarae gêm o griced ac wedyn cawson nhw ginio maethlon i gloi'r digwyddiad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae cynllun 'Bwyd a Hwyl' Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf wedi helpu degau o filoedd o deuluoedd dros y degawd diwethaf. Gan ddarparu prydau maethlon am ddim a gweithgareddau cyfoethogi ledled y wlad. Rwy'n falch iawn o nodi'r pen-blwydd arbennig hwn trwy ymweld â'r cynllun Bwyd a Hwyl llwyddiannus a phoblogaidd iawn yn Ysgol Gynradd Pantside.

"Gall gwyliau'r haf fod yn gyfnod heriol i deuluoedd, ac mae'r cynllun 'Bwyd a Hwyl' yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae ysgolion yn ei chwarae wrth gefnogi plant, eu teuluoedd a'r gymuned leol.

"Wrth wraidd y cynllun hwn y mae gweithlu ymroddedig yr awdurdodau lleol a'r rhanddeiliaid addysg – sydd wedi ffurfio partneriaethau gwych gydag amrywiaeth o sefydliadau i ddarparu ystod amrywiol o weithgareddau i bobl ifanc eu mwynhau."