English icon English

Carreg filltir enfawr i addysg Cymru wrth i ganllawiau diwygiedig y cwricwlwm gael eu cyhoeddi gydag ymrwymiad o £15m i helpu athrawon ei roi ar waith

‘Huge landmark’ for Welsh education as revised curriculum guidance published with £15m commitment to support teachers with implementation

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ganllawiau diwygiedig Cwricwlwm Cymru heddiw (dydd Mawrth, 28 Ionawr) gan gadarnhau £15m o gymorth ychwanegol i athrawon wrth iddynt baratoi i’r roi ar waith.

Dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n hynod o falch o gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig heddiw ar gyfer ein cwricwlwm ysgol newydd, cwbl ddiwygiedig, a wnaed yng Nghymru.

“Dyma garreg filltir enfawr i addysg yng Nghymru – rwy’n falch iawn ein bod ni yn arwain y ffordd o ran diwygio addysg, a chanolbwyntio ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion cyflawn yng Nghymru a’r byd.

Mae’r canllawiau newydd wedi’u diwygio yn dilyn yr adborth helaeth i’r cwricwlwm drafft a gyhoeddwyd fis Ebrill 2019 – maent yn symlach, yn fyrrach ac yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru ddylunio eu cwricwlwm eu hunain o fewn dull gweithredu cenedlaethol sy’n sicrhau cysondeb.

Aeth y Gweinidog yn ei blaen: “Hoffwn i ddiolch i ymarferwyr am eu hymrwymiad dros y tair blynedd ddiwethaf yn drafftio’r canllawiau hyn. 

“Hoffwn i hefyd ddiolch i’r unigolion a’r sefydliadau a gyfrannodd yn ystod y cyfnod adborth llynedd ar ôl i’r canllawiau drafft gael eu rhyddhau. 

“Mae ansawdd uchel a manylder y cyfraniadau hyn wedi’n helpu ni i wneud gwelliannau sylweddol.

“Gwella addysg yw cenhadaeth ein cenedl, a’r hyn sy’n bwysicach na dim yw gwneud yn siŵr bod gan bawb fynediad at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc i sicrhau swyddi, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar.”

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai £15m yn ychwanegol ar gael y flwyddyn nesaf i helpu i roi’r cwricwlwm ar waith, gyda £12m yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion ar gyfer dysgu proffesiynol.

“Bydd grymuso ein proffesiwn ac adeiladu hyder yn allweddol er mwyn gweithredu a chyflawni’r cwricwlwm newydd,” dywedodd y Gweinidog.

Fel rhan o’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol bydd diwrnod HMS ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, cyfanswm o 18 dros dair blynedd, gydag adnoddau yn cael eu datblygu i ysgolion eu defnyddio.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd fwriad i gyhoeddi cynllun gweithredu’r cwricwlwm ar ôl y Pasg.

Bydd y cynllun yn darparu amlinelliad clir ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm yn seiliedig ar ble y dylai ysgolion ganolbwyntio eu hymdrechion ar adegau gwahanol hyd at 2022 a sut y byddant yn cael eu cefnogi i wneud hyn.

Dywedodd y Gweinidog: “Ni ddylai ysgolion ruthro i geisio cynllunio ar gyfer hyn, nawr yw’r amser i bob ymarferydd ar draws Cymru edrych ar yr hyn sydd wedi’i gyhoeddi. 

“Dylai ysgolion gymryd amser i ddeall model y cwricwlwm, edrych ar y deunyddiau a’r llenyddiaeth a dechrau trafod sut y bydd eu gweledigaeth a’u gwerthoedd yn helpu i lunio eu cwricwlwm yn y pen draw.

“Y cam nesaf ar y daith o ddiwygio yw paratoi’r proffesiwn i’w wireddu ym mhob ystafell ddosbarth ac ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.”

Ychwanegodd pennaeth Ysgol Gynradd St Julian yng Nghasnewydd, Gwent, Luke Mansfield:

“Dyma garreg filltir hynod o gyffrous ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae wedi bod yn wych gweld Cwricwlwm Cymru yn esblygu ac yn datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda’r holl randdeiliaid yn cael cyfle i gyfrannu ato a helpu i’w ffurfio.

“Rwy’ wrth fy modd gyda’r rhyddid a’r hunan reolaeth gynyddol mae’r cwricwlwm newydd yn eu cynnig i athrawon, yn hytrach na chael cwricwlwm rhy bendant sy’n cyfyngu ar arloesi a chreadigrwydd.

“Mae’r broses o greu’r cwricwlwm newydd yr un mor bwysig â’r cynnyrch; mae wedi caniatáu i athrawon o bob cwr o’r wlad rwydweithio a chydweithio, gan rannu syniadau ac arferion gyda’i gilydd mewn ffordd na welwyd o’r blaen.

“Dyma gyfle da i ysgolion gymryd amser i ystyried yr hyn maen nhw’n ei addysgu a’r ffordd maen nhw’n mynd ati, gan fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd eu hathrawon ac ystyried diddordebau ac anghenion eu plant.”