Cartrefi gofal yn elwa o gyflwyno dyfeisiau digidol
Care homes benefiting from digital devices rollout
Mae cartrefi gofal ledled Cymru yn elwa o gael dyfeisiau digidol a ddarperir fel rhan o gynllun gan Llywodraeth Cymru er mwyn helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac i helpu gydag ymgyngoriadau meddygol drwy gyfleuster fideo.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £800k o gyllid i ddarparu dyfeisiau digidol i ofalwyr, cartrefi gofal a hosbisau.
Dros yr wythnosau diwethaf mae Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, a gyflawnir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, wedi bod yn dosbarthu'r dyfeisiau i gartrefi gofal ym mhob rhan o Gymru, ac mae'n darparu cymorth a hyfforddiant o bell i weithwyr allweddol ar sut i ddefnyddio'r dechnoleg gyda'r bobl sydd yn eu gofal.
Hyd yma, mae 745 o ddyfeisiau* wedi cael eu darparu i 401 o gartrefi gofal* fel rhan o'r cynllun, gyda 313 o gartrefi gofal yn cael hyfforddiant i’w staff ar Wasanaeth Fideo-ymgynghori GIG Cymru (*gweler y nodiadau i'r golygyddion i weld y manylion fesul Bwrdd Iechyd).
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar bob un ohonom, ac mae wedi bod yn arbennig o heriol i bobl hŷn a'r rheini sy'n byw mewn cartrefi gofal na allant weld eu ffrindiau a'u hanwyliaid.
“Mae technoleg wedi chwarae rôl allweddol dros yr wythnosau diwethaf wrth helpu pobl i gadw mewn cysylltiad, a chaniatáu i ymgyngoriadau meddygol fynd rhagddynt heb fod angen i neb ymweld â'r meddyg teulu na'r ysbyty. Mae'n falch gennyf weld bod dyfeisiau digidol wedi bod yn cyrraedd cartrefi gofal, gan wneud pethau'n haws i'r staff a'r preswylwyr.
“Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y defnydd o dechnoleg ddigidol ar draws y GIG a'r sector gofal cymdeithasol dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i'r pandemig. Bydd llawer o'r newidiadau hyn yn aros gyda ni yn y dyfodol gan alluogi pobl i gadw mewn cysylltiad a gwella mynediad at wasanaethau.”
Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru:
“Mae cyflymder y chwyldro digidol ym maes iechyd a gofal wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'r argyfwng hwn. Gwyddom o brofiad y gall sgiliau digidol drawsnewid bywydau ac mae darparu dyfeisiau yn rhan bwysig o wella cynhwysiant digidol ynghyd â chysylltedd da.
“Mae ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru wedi gallu darparu cymorth a hyfforddiant i staff er mwyn sicrhau bod ganddynt yr hyder, y wybodaeth a'r sgiliau i ddefnyddio technoleg eu hunain a helpu eraill i wneud yr un peth. Rydym yn falch iawn o allu gweithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn GIG Cymru a TEC Cymru er mwyn helpu i wneud y gwahaniaeth hwn."