Cyhoeddi Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
New Chair of Cardiff and Vale University Health Board announced
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw [dydd Gwener 26] mai Charles Janczewski fydd cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae Charles Janczewski, sy’n cael ei adnabod fel Jan, yn gyn-gyfarwyddwr gweithredol gyda Bwrdd Cymru Banc Lloyds Plc, a chyn hynny roedd yn ymgynghorydd busnes annibynnol yn gweithio ar draws Cymru ac yn Ne-orllewin Lloegr.
Cafodd ei fagu yn Abertawe, ac mae bellach yn athro anrhydeddus yn y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym mhrifysgol y ddinas honno, lle mae’n cadeirio bwrdd llywodraethu’r Academi Iechyd a Llesiant.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae’n bleser mawr croesawu Jan yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’n ymgymryd â’r rôl hon yng nghanol pandemig byd-eang, ond mae’n awyddus iawn i fwrw ati yn ei swydd newydd.
“Mae cadeiryddion byrddau iechyd yn cael eu penodi ar sail eu profiadau, ac mae rolau blaenorol Jan – gan gynnwys ei rôl fel aelod annibynnol o fwrdd ac fel is-gadeirydd yn y GIG yng Nghymru – yn golygu bod unrhyw gyfraniad ganddo’n hynod werthfawr ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth a pharch.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â gwaith Llywodraeth Cymru gyda Jan a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wrth inni weithredu ein rhaglen uchelgeisiol i ddiogelu ein pobl rhag effeithiau’r coronafeirws a chreu Cymru iach ac egnïol wrth inni symud ymlaen at y ‘normal newydd’.”
Gan siarad am ei benodiad newydd, dywedodd Jan:
“Dw i wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi’n gadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a hefyd o gael y cyfle i barhau i adeiladu ar fy rôl fel is-gadeirydd, er mwyn darparu gwasanaethau gofal iechyd i Gaerdydd a Bro Morgannwg.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n byw drwy gyfnod digynsail, ac ni fu rôl y gwasanaeth iechyd yn ein cymunedau erioed yn bwysicach. Mae’n fraint cael gweithio ochr yn ochr â staff ymroddgar a sensitif i wella ein gwasanaeth yn barhaus, a dw i’n diolch iddynt am hynny. Gyda’n gilydd byddwn yn parhau i ddarparu gofal iechyd drwy gyfnodau o argyfwng, ar y cyd â’n gweithwyr allweddol eraill a sefydliadau partner.
“Dw i’n credu mai un o rinweddau gorau cadeirydd yw’r gallu i wrando ar farn ein cleifion, ein staff, a’n cymunedau er mwyn inni barhau i wella ein gwasanaethau iechyd gyda’n gilydd. Mae’r ansicrwydd sydd wedi codi yn sgil pandemig y coronafeirws y golygu ein bod, ar hyn o bryd, yn dysgu sut i gyd-fyw â’r feirws, ochr yn ochr ag ymateb i’r angen i sicrhau bod llawer o’n gwasanaethau’n gweithredu’n effeithiol unwaith yn rhagor.
Bydd hyn yn her sylweddol i’r maes iechyd a’n cymdeithas fel ei gilydd, a dw i wedi ymrwymo i’r gwaith o arwain y bwrdd a’m cydweithwyr yn ein hymateb i’r her hon.”