£1 miliwn ychwanegol i helpu i fwydo teuluoedd yng Nghymru
Extra £1 million to help feed families in Wales
Mae sefydliadau bwyd cymunedol a banciau bwyd ledled Cymru yn derbyn £1 miliwn ychwanegol ar hyn o bryd i helpu i fwydo mwy o bobl sydd angen cefnogaeth.
Daw'r cyllid â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cymorth bwyd brys eleni i £3.44 miliwn. Bydd yn helpu sefydliadau i brynu, storio a dosbarthu bwyd, gan gynnwys bwyd dros ben a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu. Bydd hyn yn rhoi hwb i'w gallu i fodloni'r galw cynyddol, gan sicrhau bwyd maethlon o ansawdd da i bobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw. Mae'r gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol yn achosi ansicrwydd ar draws marchnadoedd byd-eang ac mae'n bosibl y bydd yn cynyddu costau bywyd bob dydd. Daw'r cyllid felly ar adeg hollbwysig i aelwydydd sydd eisoes dan bwysau ariannol.
Mae'r cyllid yn rhan o weithredu ehangach gan Lywodraeth Cymru i helpu aelwydydd sy'n wynebu caledi. Rhwng 2022 a 2026, mae hi wedi buddsoddi dros £7 biliwn i gefnogi aelwydydd drwy raglenni sy’n lleddfu pwysau ariannol, helpu i wneud y mwyaf o incwm a helpu i gadw mwy o arian yn eu pocedi.
Drwy ei hymgyrch Hawlia dy Arian, sy'n cyfeirio pobl i Advicelink Cymru am gymorth cyfrinachol am ddim, mae dros £10.5 miliwn wedi'i ddychwelyd i bobl ers 2020. Mae'r gwasanaeth yn helpu pobl i gael mynediad at fudd-daliadau, pensiynau, cymorth gyda chostau gofal a gostyngiadau i'r dreth gyngor y gallai fod ganddynt hawl iddynt.
Er mwyn mynd i'r afael â thlodi ynni, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi dros £30 miliwn bob blwyddyn i'r cynllun Nyth Cartrefi Cynnes, sy'n darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i aelwydydd ar incwm isel. Ers 2022, mae £7.4 miliwn hefyd wedi'i ddyrannu i'r Sefydliad Banc Tanwydd i redeg cynllun talebau tanwydd a chronfa wres mewn argyfwng ledled Cymru, gan helpu dros 230,000 o bobl sy'n wynebu caledi drwy roi ynni ychwanegol a danfon tanwydd i aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy.
Mae'r aelwydydd cymwys sy'n elwa ar y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a'r Gostyngiad Band i Bobl Anabl yn cael taliad o £100 y gaeaf hwn, a hynny'n awtomatig drwy eu hawdurdod lleol.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Mae costau byw yn parhau i roi pwysau ar lawer o aelwydydd ledled Cymru, a gallai'r rhyfel yn y Dwyrain Canol gynyddu prisiau, gan ychwanegu at y pryder y mae llawer o bobl eisoes yn ei deimlo ynghylch prynu bwyd, talu eu biliau a gwresogi eu cartrefi.
“Mae cefnogi pobl yn ystod y cyfnod hwn o bwysau yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai y mae angen cefnogaeth arnynt. Bydd y £1 miliwn ychwanegol hwn yn helpu sefydliadau cymunedol a banciau bwyd i gyrraedd mwy o bobl, fel rhan o'r gwaith ehangach yr ydym yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi.
“P'un a ydych chi'n ceisio ymdopi â chostau dydd i ddydd, yn rheoli dyled neu'n ansicr pa gymorth sydd ar gael, mae Advicelink Cymru yno i'ch helpu i hawlio'r cymorth y mae gennych hawl iddo.”
Gall pobl gysylltu ag Advicelink Cymru ar 0800 702 2020 i gael cyngor cyfrinachol am ddim.