English icon English
Money-2

Cefnogaeth argyfwng i fusnesau sydd wedi'u taro gan Goronafeirws

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn o gefnogaeth gwerth mwy na £200m i fusnesau bach i’w helpu yn ystod yr achosion o goronafeirws. 

Bydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethadwy o £51,000 neu lai yn derbyn gostyngiad ardrethi busnes o 100% a bydd tafarndai gyda gwerth trethadwy sydd rhwng £51,000 a £100,000 yn derbyn gostyngiad o £5,000 ar eu bil. 

Bydd £100m pellach ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau bach nad ydynt yn gymwys i gael y gostyngiad ardrethi busnes newydd hwn. Bydd rhagor o fanylion am y cynllun grant newydd hwn yn cael eu cadarnhau cyn gynted â phosib. 

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Rydw i’n falch ein bod ni’n gallu cynnig y pecyn hwn o gefnogaeth i fusnesau fel rhan o’n hymateb i achosion o goronafeirws. Rydym yn neilltuo pob ceiniog o’r cyllid y byddwn yn ei dderbyn o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth y DU sydd wedi’u cyhoeddi yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf i gefnogi busnesau yng Nghymru.  

“Ond rwyf yn gwybod na fydd helpu busnesau gyda’u biliau ardrethi’n ddigon i’w gwarchod rhag y gostyngiad difrifol mewn cwsmeriaeth mae llawer yn ei brofi wrth i’r achosion o goronafeirws gynyddu.  

"Byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’n gyflym ac yn bendant er mwyn darparu cefnogaeth sylweddol iawn i fusnesau bregus a’u cyflogeion.”