English icon English
Music PJT 2591 (002)

Cefnogaeth i Leoliadau Lleol Cerddoriaeth yng Nghymru

Support for Grass Roots Music Venues in Wales

Mae cyllid sydd wedi’i gyhoeddi gan Cymru Greadigol ar gyfer lleoliadau  lleol ar gyfer cerddoriaeth  yng Nghymru, fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru o £18 miliwn i gefnogi’r sector diwylliant wedi ei ddyrannu’n llawn bellach.  

Mae cyfanswm o £401,551.39 o gyllid wedi ei ddyrannu i 22 o fusnesau Cerddoriaeth ar Lawr Gwlad ledled Cymru a chafodd ei greu i helpu’r diwydiant cerddoriaeth yn ystod yr heriau sy’n gysylltiedig â’r achos o Covid-19.

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:  ““Rydyn ni wedi gwrando ar nifer o’n rhanddeiliaid o fewn y sectorau bregus hyn.  Rydyn ni yn deall bod rhain yn amseroedd ansicr i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru ac yn cydnabod yn llawn yr heriau enfawr nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen y mae y coronafeirws yn ei gael ar fywyd Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth bosibl i gefnogi cadernid, creadigrwydd a’r bartneriaeth sydd i’w weld o fewn y sector.    

 “Gobeithio bydd y gefnogaeth yma yn help I’r sector  oroesi yn ystod yr asmer anodd hwn a gobeithio i ffynnu eto – gan ddod â chymunedau at ei gilydd unwaith eto pan fydd yr argyfwng wedi mynd heibio.” 

Mae nifer o’r lleoliadau ledled Cymru wedi bod yn defnyddio dulliau arloesol o arallgyfeirio busnesau – gan gynnwys gwasanaethau danfon bwyd a diod; ffrydio cerddoriaeth a gwerthu nwyddau.   

 

Mae Samantha Dabb, Rheolwr Lleoliad - Le Pub a Chydgysylltydd Cymru yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, yn amlinellu’r heriau sydd wedi wynebu’r sector: “Mae lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn hanfodol i les ein cymunedau yn ogystal â dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru.  Hebddynt nid oes gennym leoliadau ar gyfer syniadau creadigol, dim lle i ymlacio pan dan straen ac nid oes gan y bobl fydd yn sefyll yn falch dros Gymru ar lwyfannau rhyngwladol unlle i ddechrau eu gyrfaoedd.  

“Cafodd dros 50 o berfformiadau eu canslo yn y tri mis cyntaf yn unig.  Mae ein gweithdai a’n dosbarthiadau i gyd wedi dod i ben.  Wedi 4 wythnos roedd yn bosibl inni agor i gynnal gwasanaeth danfon bwyd poeth ac alcohol ond nid oedd hyn yn ddigon i dalu’r biliau.  Rydym yn colli ein cwsmeriaid rheolaidd a’r perfformiadau, a gwneud pobl yn hapus. 

“Mae’r gronfa wedi ein hachub ac roedd cael ein cydnabod am y gwasanaethau unigryw yr ydyn ni’n eu cynnig yn rhoi sicrwydd inni pan oedd yn ymddangos y byddem yn cael ein anghofio.  Rydyn ni wedi arallgyfeirio y busnes yn ddiweddar gan gyflwyno gwasanaethau newydd megis llogi offer ar gyfer digwyddiadau.  Rydyn ni bob amser yn ystyried ffyrdd eraill o wneud pethau a byddwn yn parhau unwaith y byddwn allana o’r sefyllfa bresennol.” 

Meddai Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol: “Mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw ar lawr gwlad yn hollbwysig i ddatblygiad cerddorion yng Nghymru.  Mae’r  hinsawdd bresennol wedi creu amgylchiadau heriol iawn i leoliadau, eu staff a’r diwydiant cerddoriaeth yn ehangach.  Crëwyd y gronfa hon i geisio ysgafnhau’r baich ariannol ar draws y diwydiant i helpu lleoliadau, stiwdios, gweithwyr llawrydd ac unrhyw un arall o fewn y diwydiant cerddoriaeth yr effeithiodd Covid-19 arnynt.”   

Mae’r gronfa bellach wedi cau ac nid yw’n derbyn ceisiadau newydd.  

Mae rhagor o gyllid ar gyfer y sector bellach yn cael ei weinyddu drwy Cymru Greadigol, Cronfa Frys Datblygu Teledu a’r Gronfa Frys Datblygu Digidol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan https://www.wales.com/cy.

Nodiadau i olygyddion

Yn y Llun: Cefnogaeth i'r diwydiant cerddoriaeth ar lawr gwlad tan iddyn allu agor eu drysau unwaith yn rhagor