Cefnogi’r Diwydiant Twristiaeth wrth ofyn i ymwelwyr ‘Aros Gartref’
Supporting the tourism Industry as visitors are asked to visit Wales. Later.
Gyda Gŵyl Banc arall yn prysur nesáu, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth, a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi bod yn annog pobl i aros gartref ac aros yn lleol.
Dywedodd y Gweinidog: “Er bod hynny’n mynd yn groes i’n natur groesawgar, rydyn ni wedi bod yn gofyn i bobl aros gartref. Bydden ni wedi bod wrth ein boddau’n gweld pobl yn dod yma i fwynhau ein golygfeydd prydferth a’n hatyniadau gwych, ond er mwyn diogelu ein GIG a phobl ein neges yw ‘arhoswch gartref’.
“Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r effaith mae’r coronafeirws yn ei chael ar ein sector twristiaeth a lletygarwch. A gan fod y diwydiant yn parhau i fod ar gau i helpu i atal y feirws rhag lledaenu, rydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i helpu’r diwydiant yn yr adeg hynod anodd hon.”
Yr wythnos hon cyhoeddodd y Gweinidog y bydd y gwirydd cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd ar gael ar gyfer ceisiadau newydd erbyn canol mis Mehefin, gan roi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Bydd hyn yn galluogi mynediad at y £100 miliwn sydd ar ôl o’r £300 miliwn sydd wedi cael ei gymeradwyo a’i ddyrannu i gefnogi microfusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.
Bydd Cam 2 o’r Gronfa yn gweithredu yn yr un modd â Cham, ond mae’r cynllun ar gyfer microfusnesau wedi cael ei ddiweddaru. Bydd hyn yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi eu cofrestru ar gyfer TAW gael mynediad at y Gronfa – rhywbeth mae llawer o fusnesau bach, yn enwedig y rhai yn y sector lletygarwch, wedi bod yn gofyn amdano.
“Mae ein diwydiant twristiaeth yn rhan sylfaenol o’n heconomi ac yn chwarae rhan bwysig mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae llawer o fusnesau wedi addasu i helpu eu cymunedau a’r GIG – drwy roi llety i weithwyr allweddol neu bobl sy’n agored i niwed, neu redeg cynlluniau dosbarthu bwyd ar gyfer ysbytai lleol.
“Er bod yr argyfwng wedi bod yn ergyd drom i’r sector, mae’n wych gweld bod natur groesawgar a gofalgar y diwydiant yn parhau i fod yn amlwg – hyd yn oed yn y dyddiau anodd hyn.”
Pwysleisiodd y Gweinidog yr wythnos hon mai’r pecyn cymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yw’r pecyn mwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys:
- Benthyciadau gwerth £100 miliwn i dros 1,000 o fusnesau drwy Fanc Datblygu Cymru;
- Cynllun grantiau gwerth £400 miliwn gan y Gronfa Cadernid Economaidd – derbyniwyd dros 9,500 o geisiadau yn ystod Cam 1 y cynllun, gyda dros 6,000 o gynigion gwerth dros £100 miliwn eisoes wedi eu gwneud;
- Cymorth grant ar sail ardrethi annomestig ar gyfer busnesau bach a busnesau sy’n gweithio yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, gyda 51,100 o grantiau gwerth dros £626 miliwn wedi eu dyfarnu hyd yn hyn.
- Cyfanswm y pecyn yw £1.7 biliwn – sef 2.7% o’r cynnyrch domestig gros.
I gloi dywedodd y Gweinidog: “Nid yw’r rheolau yn newid oherwydd yr Ŵyl Banc. Byddai codi’r cyfyngiadau nawr yn cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws, a byddai hynny’n rhoi rhagor o fywydau mewn perygl ac yn peri problemau a chaledi ar gyfer ein heconomi ymwelwyr yn y tymor hirach. Gyda’r diwydiant, dw i’n edrych ymlaen at groesawu pobl i Gymru unwaith eto – ond rhywbryd yn y dyfodol, dim ar hyn o bryd.”