Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
Applications now open for Welsh Government Community Facilities Programme
Gall grwpiau cymunedol ledled Cymru nawr wneud cais am grantiau o hyd at £25,000 gan Lywodraeth Cymru i wella neu ddatblygu cyfleusterau lleol.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i wneud gwelliannau ffisegol i adeiladau neu brynu offer sydd o fudd i bobl leol. Y nod yw helpu i greu cyfleoedd tecach, atgyfnerthu rhwydweithiau lleol a chefnogi mannau sy'n dod â phobl at ei gilydd.
Ers 2015, mae'r rhaglen wedi ariannu bron i 500 o brosiectau, ac mae mwy na £70 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn mannau cymunedol ledled Cymru.
Un enghraifft ddiweddar yw Parc yr Esgob yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin, a dderbyniodd £300,000 tuag at y gost o adfer gardd furiog hanesyddol. Mae'r cyllid yn helpu i drawsnewid y safle yn lle croesawgar i bawb. Bydd y tŷ gwydr mwyaf yn dod yn ardal amlbwrpas ar gyfer gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys sesiynau coginio iach sy'n defnyddio cynnyrch wedi'i dyfu yn yr ardd. Bydd y tai gwydr eraill yn cefnogi dysgu garddwriaethol a thyfu planhigion.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn, Louise Austin: "Dim er mwyn gwarchod treftadaeth yn unig oedd adfer yr ardd furiog ym Mharc yr Esgob – rydyn ni hefyd wedi cael ein hysbrydoli gan y gorffennol i greu lle newydd cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Gyda chymorth gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n rhoi bywyd newydd i'r lle hanesyddol hwn, er mwyn tyfu bwyd, rhannu sgiliau a chysylltu â natur a'n gilydd. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cyllid sy'n helpu i droi rhan o'n gorffennol a oedd wedi cael ei anghofio yn rhan ffyniannus o'n dyfodol."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a ymwelodd â'r safle ddoe: "Mae Parc yr Esgob yn enghraifft wych o'r hyn sy'n gallu digwydd pan fydd cymuned yn dod at ei gilydd i ail-ddychmygu lle lleol. Mae'r prosiect yn adlewyrchu balchder, angen ac uchelgais lleol – gan droi lle a oedd wedi cael ei anghofio yn lle croesawgar i bawb.
"Dim er mwyn yr adeiladau eu hunain rydyn ni'n buddsoddi – ond er budd y bobl sy'n eu defnyddio. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw cael mannau yn agos at ein cartrefi lle gall pobl gymryd rhan mewn gweithgareddau, derbyn cymorth a theimlo'n rhan o rywbeth. Dyna pam rydyn ni'n cefnogi syniadau fel hyn a arweinir gan y gymuned – creadigol, ymarferol ac wedi'u gwreiddio mewn lle."
Mae ceisiadau bellach ar agor am grantiau o dan £25,000. Bydd grantiau mwy o hyd at £300,000 yn agor o 1 Hydref. Mae'r rhaglen ar gael i sefydliadau dan arweiniad cymunedol gan gynnwys elusennau cofrestredig, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar gael yn:
llyw.cymru/cyfleusterau-cymunedol-rhaglen