English icon English
Earthshot-2

Cenedlaethau'r dyfodol yn amlinellu syniadau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Future generations outline ideas to tackle climate change.

Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, cymerodd 50 o ddisgyblion o 10 ysgol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ran mewn digwyddiad Hinsawdd Ieuenctid yn y Senedd yr wythnos hon.

Roedd y digwyddiad yn dathlu'r gwaith y mae ysgolion wedi'i wneud i gwblhau'r heriau a osodwyd drwy brosiect Her Hinsawdd Cymru.

Yn ogystal â chyflwyniadau ac arddangosfeydd gan yr ysgolion oedd yn bresennol, cafodd y bobl ifanc glywed gan Gomisiynydd Plant Cymru ac aelod o Earthshot.  Fe wnaethon nhw hefyd gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol gydag Eco Ysgolion a Maint Cymru, gan edrych ar y mathau o gamau gweithredu y gall pobl ifanc eu cymryd - a ffyrdd o ysbrydoli eraill. Bu'r Urdd, WWF a Sustrans hefyd yn cynnal gweithdai yn y digwyddiad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:  "Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad brys i genedlaethau'r dyfodol, ond gall mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd ysgogi cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ein gweledigaeth a'n huchelgais yw cynllunio ar gyfer dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bob un ohonom. 

"Mae cydweithio'n hanfodol er mwyn cyflawni hyn, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i rannu eu profiadau a'u syniadau. 

"Cydweithio yw'r ffordd Gymreig o fynd i'r afael â heriau mawr. Bydd cydweithio rhwng y llywodraeth, busnesau a chymunedau, gan gynnwys pobl ifanc, yn ein galluogi i gyrraedd ein targedau a chyflawni’n dyheadau ar gyfer y wlad.

"Roedd yn wych treulio amser yn y digwyddiad i ddeall safbwyntiau a datrysiadau plant a phobl ifanc, a thrafod rôl hanfodol pobl ifanc yn y newid cymdeithasol sydd ei angen."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae’r gwaith mae’r plant a’r bobl ifanc wedi ei wneud i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd wedi gwneud argraff fawr arnaf. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd i herio newid hinsawdd, ac rwy’n falch bod yr ysgolion wedi cydweithio â’r prosiectau gwych hyn i greu profiadau dysgu sy’n ennyn brwdfrydedd. Mae’r gwaith yn enghraifft arbennig o’r hyn y gellir ei wneud pan roddir cyfle i ddysgwyr wneud newid cadarnhaol.”