Cenhadaeth economaidd newydd i gau'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a'r DU a chynyddu cyflogau

New economic mission to close Wales’ productivity gap with UK and boost pay

  • Nod economaidd newydd i haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU.
  • Ffordd newydd i sicrhau mai Cymru yw'r lle hawsaf yn y DU i ddechrau, tyfu a buddsoddi mewn busnes.
  • Asiantaeth newydd i ysgogi datblygu economaidd a chynyddu cyflogau.

Rydyn ni'n lansio cenhadaeth economaidd newydd i gynyddu cyflogau a haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd – dyna'r neges gan Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.

Am fod cynhyrchiant Cymru 15% yn is na chyfartaledd y DU ar hyn o bryd, mae hefyd eisiau sicrhau mai Cymru yw'r lle hawsaf yn y DU i ddechrau, tyfu a buddsoddi mewn busnes.

Wrth gyflwyno ei Ddatganiad Llafar cyntaf i'r Senedd heddiw, dywedodd y Gweinidog Cabinet fod Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu dull gwahanol, gyda’r nod o ddod â chenedlaethau o gynhyrchiant isel i ben.

Bydd y dull newydd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â busnesau, undebau llafur, rhanddeiliaid rhanbarthol a Llywodraeth y DU, gyda ffocws penodol ar gefnogi cwmnïau i ehangu fel y gallan nhw gystadlu mewn marchnadoedd gwerth uchel.

Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan system sgiliau ddiwygiedig sy'n arfogi pobl nid yn unig ar gyfer gwaith, ond ar gyfer datblygu eu gyrfa.

Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:

"Heddiw rydyn ni'n cyhoeddi Nod Cynhyrchiant Cenedlaethol i gau'r bwlch gyda gweddill y DU a helpu i ryddhau potensial llawn economi Cymru.

Mae Cymru wedi treulio gormod o amser yn ceisio cau’r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y DU. Mae cyhoeddi’r targed hwn heddiw yn dangos ein hymrwymiad clir i wella bywydau’r bobl sy’n byw yng Nghymru. Drwy ganolbwyntio ar gynhyrchiant, byddwn ni'n sicrhau cyflogau uwch, busnesau cryfach a chymunedau ffyniannus.

"Bydd y nod hwn yn rhoi cyfeiriad i'n hasiantaeth arloesi a datblygu newydd yng Nghymru, gan lywio'r ffordd rydyn ni'n cefnogi busnesau, datblygu sgiliau a buddsoddi yn sylfeini economi gryfach a mwy cystadleuol yng Nghymru.

"Rydyn ni'n benderfynol o droi uchelgais yn weithredu, gan greu economi gryfach a mwy cynhyrchiol sy'n cyflawni ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru."

Bydd manylion y ffordd byddwn ni'n mesur ac yn monitro'r nod cynhyrchiant yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach eleni.