English icon English
girl and women-2

Cydsyniad Brenhinol wedi’i dderbyn i Fil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol) (Cymru)

Royal Assent received for Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

Heddiw [Dydd Gwener 20fed] derbyniodd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol) (Cymru) Gydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Mae’r gyfraith newydd yn ceisio rhoi terfyn ar gosb gorfforol i blant yng Nghymru, gwarchod eu hawliau ac adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Nodwyd yr achlysur heddiw gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn selio’r Bil yn swyddogol, gan olygu y daw’r gyfraith i rym ddydd Llun 21ain Mawrth 2022.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan, sydd wedi arwain ar y Bil:

“Does dim rheswm byth i daro plentyn - efallai bod hynny wedi cael ei ystyried yn briodol yn y gorffennol ond nid yw’n dderbyniol mwyach. Mae ein plant ni’n haeddu cael eu trin gyda’r un parch ac urddas ag oedolion.

“Er bod selio’r Bil wedi cael ei wneud tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd achosion o Covid-19, rydyn ni’n falch o fod wedi cymryd y cam hanesyddol hwn i helpu i warchod plant a’u hawliau.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgyrchu dros y ddeddfwriaeth hon a’i chefnogi.”