English icon English

Chwe mis tan y newid mwyaf yn y gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau

Six months until the ‘biggest change to housing law in Wales for decades’

“Eleni, bydd y ffordd rydyn ni’n rhentu yng Nghymru yn dod yn symlach ac yn fwy tryloyw.”

Dyna addewid y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ar Orffennaf 15 wrth iddi gyhoeddi ei bwriad i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Dyma fydd rhai o’r prif newidiadau a gaiff eu cyflwyno yn sgil y Ddeddf:

  • Bydd gofyn i bob landlord ddarparu copi ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’r tenant (a elwir yn ‘ddeiliad contract’ yn y ddeddfwriaeth). Bydd hwn yn amlinellu hawliau a chyfrifoldebau’r ddwy ochr.
  • Cynyddu cyfnodau rhybudd 'dim bai' o ddau fis i chwe mis. Bellach, ni fydd modd rhoi hysbysiad o rybudd yn ystod y chwe mis cyntaf, sy’n golygu y bydd cyfnod diogel o 12 mis o leiaf gan bob deiliad contract ar ddechrau eu tenantiaeth.
  • Cryfhau’r ddyletswydd ar landlordiaid i sicrhau bod yr eiddo y maen nhw’n ei osod ar rent yn addas i fyw ynddo, gan gynnwys gosod larymau mwg a charbon monocsid, a threfnu profion diogelwch trydanol rheolaidd.
  • Mynd i’r afael â’r arfer o droi tenantiaid allan er dial (hy lle mae landlord yn rhoi hysbysiad o rybudd i denant am ei fod yn gofyn iddo wneud gwaith atgyweirio neu’n cwyno am gyflwr yr eiddo).
  • Cyflwyno dull gweithredu cyson ar draws y sectorau o safbwynt troi allan mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais domestig.

Dywedodd y Gweinidog:

“Y Ddeddf hon yw’r newid mwyaf yn y gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

“Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn haws rhentu cartref yng Nghymru, gan ddisodli sawl deddfwriaeth a chyfraith achosion gymhleth amrywiol ag un fframwaith deddfwriaethol clir.

“Pan fydd wedi’i sefydlu, bydd gan ddeiliaid contractau yng Nghymru fwy o ddiogelwch o ran deiliadaeth na phobl yn unrhyw ran arall o’r DU.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol a fydd yn sicrhau bod landlordiaid a thenantiaid yn ymwybodol o’r newidiadau a ddaw i rym o fis Gorffennaf 2022.

I gael gwybod mwy, ewch i: llyw.cymru/rhentucartrefi