Chwilio am #ArwyrCarbonIsel Cymru wrth i’r genedl edrych tuag at adferiad wedi pandemig Covid-19
Call goes out for Wales’ #LowCarbonHeroes as nation looks towards recovery from Covid-19 pandemic
Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a chydlynu’r gweithredu drwy ei Gynllun Carbon Isel er mwyn helpu meysydd eraill yn yr economi i gymryd camau pendant i symud oddi wrth danwyddau ffosil.
Nawr mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am #ArwyrCarbonIsel Cymru, wrth i’r wlad geisio canolbwyntio ar lwybr cyfrifol yn amgylcheddol allan o’r cyfyngiadau symud a thuag at genedl fwy ffyniannus a chynaliadwy.
Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae llawer o bobl wedi troi at arferion mwy amgylcheddol gyfeillgar, gan gynnwys pethau fel ymarfer yn yr awyr agored, uwchgylchu dillad, tyfu llysiau a phrynu cynnyrch lleol.
Rydym eisiau i aelodau’r cyhoedd rannu eu newidiadau yn ystod y cyfyngiadau symud er mwyn i ni allu rhannu cynghorion a gweld sut gallwn ni barhau â rhai o’r newidiadau carbon isel cadarnhaol gyda’n gilydd.
Rydym yn eu gwahodd i dynnu sylw at eu hymdrechion drwy rannu eu profiadau ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #ArwyrCarbonIsel (neu #LowCarbonHeroes yn Saesneg). Er gwaetha’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu bwrw ymlaen â nifer o welliannau a newidiadau amgylcheddol allweddol, gan gynnwys y canlynol:
- Cyllido prosiectau tai newydd ledled Cymru drwy’r Rhaglen Tai Arloesol, i annog adeiladu tai cymdeithasol carbon isel/di-garbon;
- Dechrau ar y gwaith o greu Fforest Genedlaethol Cymru; ochr yn ochr â lansio prosiectau coetir cymunedol cysylltiedig, a ffenest £8 miliwn newydd Cynllun Creu Coetiroedd Glastir – a bydd y cyfan yn cyfrannu at ein nod o blannu o leiaf 2,000 o hectarau o goed newydd bob blwyddyn;
- Sicrhau bod Cymru’n chwarae rhan flaenllaw yn y newid tuag at deithio llesol, gan gynnwys cyllido mesurau newydd yng nghanol tref y Rhyl i gael gwared ar ardaloedd ar gyfer parcio ar y stryd gan ryddhau lle ar y stryd ar gyfer cerdded a beicio;
- Cyhoeddi £15 miliwn mewn grantiau trafnidiaeth i awdurdodau lleol i gefnogi 18 o wahanol gynlluniau ledled Cymru i liniaru ac addasu i effeithiau newid hinsawdd.
Hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi cyrraedd neu ragori ar nifer o nodau amgylcheddol arwyddocaol:
- Parhau ar y llwybr ar gyfer targed lleihau allyriadau interim 2020 o 27%;
- Yn 2018 fe fu gostyngiad o 31% yn yr allyriadau o gymharu â’r allyriadau sylfaen, ac wyth y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol;
- Yn ystod yr un flwyddyn, cafodd hanner galw Cymru am drydan ei fodloni gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy;
- Lleihau’r defnydd cyffredinol o ynni 21% ers 2005.
Er gwaetha’r llwyddiannau diweddar, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau â thrywydd ymateb Cymru i’r argyfwng newid hinsawdd hyd yma, a hefyd ei wella – yn enwedig yn dilyn effaith pandemig Covid-19.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog ar gyfer yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi cynyddu ei huchelgais a chreu newidiadau mawr, ac maent i gyd yn cyfrannu at ein helpu ni i ymateb i’r argyfwng hinsawdd sy’n parhau.
“Ac mae ein penderfyniad ni i fynd i’r afael â’r materion hyn yn gryfach fyth, nid gwannach, yn sgil effaith ddiweddar pandemig Covid-19 – ac rydw i wedi dweud eisoes, wrth i ni ddod allan o ganlyniadau’r pandemig hwn, rydyn ni eisiau gwneud hynny mewn ffordd sy’n arwain at Gymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus.”
Ychwanegodd y Gweinidog: “Rydyn ni wedi gweld pŵer gweithredu ar y cyd ar waith yn ystod pandemig Covid-19, ac mae ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd yn gofyn am weithredu yr un fath, gyda’n gilydd.
“Wrth atgyweirio’r difrod i’n cymunedau a’n heconomi ni sydd wedi’i achosi gan y pandemig, rydyn ni eisiau sicrhau bod mwy fyth o bobl yn ymarfer yr ymddygiad carbon isel yma – a dyma pam rydyn ni eisiau cael dod i adnabod Arwyr Carbon Isel.
“Bydd cyfle iddyn nhw roi esiamplau o sut maen nhw wedi gallu lleihau eu defnydd o ynni, neu sicrhau manteision ehangach iddyn nhw eu hunain neu eraill yn ystod y cyfyngiadau symud, ac ysbrydoli eraill i ddilyn yn ôl eu troed.
“Gall y rhain fod yn deuluoedd sydd wedi bod yn prynu cynnyrch lleol gan arbed milltiroedd bwyd, ailgylchu hen ddillad, drwy wneud rhai newidiadau defnyddiol, neu bobl sydd wedi bod yn beicio ac yn ymarfer mwy yn lle defnyddio eu ceir.
“Mae gennym ni gryn dipyn i’w wneud eto er mwyn cyrraedd ein nodau hinsawdd ac amgylcheddol tymor hwy – ond hyd yn oed gyda’r holl bwerau sydd ar gael i ni, ni fydd ein gwaith ni fel llywodraeth yn cael llawer o effaith oni bai fod pobl Cymru yn ymuno â ni ar y siwrnai hon – ac rydyn ni angen help yr Arwyr Carbon Isel er mwyn dangos i bobl bod posib gwneud hyn.”
Un person sydd wedi rhoi amser yn ystod y cyfyngiadau symud i ailwerthuso beth mwy y gall ei wneud er mwyn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd yw Sian Sykes, ymgyrchydd amgylcheddol o Ynys Môn.
Hawliodd Sian y penawdau wrth lwyddo i rwyf-fyrddio o amgylch Cymru er mwyn tynnu sylw at yr holl lygredd sydd yn ein moroedd a’n dyfrffyrdd ni oherwydd plastig defnydd sengl – ac roedd wedi rhwyf-fyrddio o amgylch Ynys Môn cyn hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r un broblem.
Hefyd mae wedi arwain fel trefnydd rhanbarthol Ynys Môn ar gyfer yr elusen cadwraeth forol Syrffwyr Yn Erbyn Carthffosiaeth (SAS), gan ymgyrchu’n llwyddiannus dros statws “di-blastig” wedi’i ardystio gan SAS ar gyfer yr ynys y llynedd.
Dywedodd Sian: "Mae pob un ohonom ni’n gyfrifol, fe allwn ni wneud newidiadau bach ar y cyd er mwyn helpu i greu gwahaniaeth mawr i leihau ein heffaith negyddol ar yr amgylchedd.
"Mae’r cyfyngiadau symud wedi bod yn gyfle i mi edrych yn ddyfnach fyth ar beth arall allaf i ei wneud er mwyn lleihau fy effaith ar yr amgylchedd. Rydw i wedi bod yn tyfu fy llysiau fy hun, gwneud fy mhethau ymolchi fy hun a hefyd cynhyrchion glanhau’r tŷ.
“Ac rydw i wedi cael cyfle i arafu, meddwl am bethau, ailgysylltu â byd natur yn lleol ac rydw i wedi bod yn fwy ymwybodol er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i leihau’r effaith rydw i’n ei chael ar fyd natur a’r amgylchedd. Rydw i’n eithriadol ddiolchgar o fod yn byw ble rydw i ac rydw i eisiau gwneud fy ngorau glas i warchod yr ardal yma.”
Ychwanegodd Sian: “Fe fydd miloedd o bobl ledled Cymru’n cymryd y camau ychwanegol hynny i leihau eu heffaith carbon yn ystod y cyfnod anodd yma – drwy brynu yn lleol a phrynu cynnyrch yn ei dymor i leihau milltiroedd bwyd; lleihau gwastraff bwyd; atgyweirio neu greu dillad i osgoi ffasiwn cyflym, neu leihau’r ddibyniaeth ddiangen ar y plastig defnydd sengl maen nhw’n ei ddefnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
“Fe hoffwn i annog yr Arwyr Carbon Isel hynny i ddod i amlygrwydd a rhannu eu straeon er mwyn darparu esiamplau ysbrydoledig o sut gall eraill leihau eu defnydd o ynni a’r gwastraff yn eu bywydau eu hunain, er mwyn iddyn nhw gael eu cydnabod am eu hymdrechion.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau
Bydd cyfres o gyhoeddiadau sy’n rhoi sylw manylach i’r gwelliannau diweddar – gan gynnwys yr astudiaeth Defnydd o Ynni yng Nghymru; ymgynghoriad ar bolisi glo drafft Llywodraeth Cymru ac eraill – yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos sydd i ddod.
Hefyd, yn nes ymlaen yn ystod y mis hwn, bydd Fframwaith Monitro a Gwerthuso ar gyfer cynllun addasu newid hinsawdd Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi.