Cipolwg ar drysorfa'r byd pêl-droed
Game changing moments to take centre stage once again
Mae Cymru yn paratoi ar gyfer haf o hanes y byd pêl-droed, gyda chipolwg cyntaf yr wythnos hon ar amgueddfa bêl-droed genedlaethol newydd.
Mae amgueddfa bêl-droed genedlaethol newydd Cymru wedi symud cam sylweddol yn nes at agor ei drysau yr wythnos hon gyda chipolwg tu ôl i'r llenni ar ei horielau a'i harddangosfeydd sydd bron wedi'u cwblhau.
Mae Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn fuddsoddiad diwylliannol nodedig, a disgwylir iddi agor i'r cyhoedd yn ystod haf 2026.
Mae'r amgueddfa newydd tua hanner milltir o'r Cae Ras, cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam a Gwesty'r Wynnstay Arms lle sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1876.
Cafodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, gipolwg ar yr orielau, arddangosfeydd rhyngweithiol, ffilmiau ymgolli a'r ardd lesiant sydd newydd ei thirlunio wrth i dîm y prosiect gwblhau'r arddangosfeydd. Fe wnaeth ef hefyd helpu i osod rhai o'r gwrthrychau cyntaf mewn casys arddangos.
Pan fydd yn agor, bydd yn drysorfa o straeon ac arteffactau a bydd yn cynnwys elfennau rhyngweithiol ar gyfer yr holl deulu.
Bydd rhai o'r arddangosfeydd yn cynnwys:
- Goliau Gwych Cymru – arddangosfa ryngweithiol lle gall pobl wylio a phleidleisio dros eu hoff gôl
- Y Llinell Amser – casyn yn llawn gwrthrychau o 1876 hyd heddiw, sy'n adrodd hanes y timau cenedlaethol
Ddydd Sadwrn [14 Mawrth], gwelodd y Gweinidog rai o'r gwrthrychau cyntaf yn cael eu rhoi mewn casys, yn barod ar gyfer yr agoriad, gan gynnwys:
- Taflen tîm gwreiddiol Cymru v Yr Alban o 1876 (gêm ryngwladol gyntaf Cymru)
- Cap a chrys y pêl-droediwr Wyn Davies, a enillodd 34 cap dros Gymru ac a fu farw y llynedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth bron i £6 miliwn tuag at yr amgueddfa bêl-droed ers mis Mehefin 2023, gyda chyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect ehangach dros £6.78 miliwn.
Wrth siarad yn ystod yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
"Mae Amgueddfa Bêl-droed Cymru wedi bod yn ymrwymiad diwylliannol mawr i Lywodraeth Cymru a dwi wrth fy modd - yn enwedig fel cefnogwr pêl-droed gydol oes fy hun - i allu ymweld a gweld gymaint o ased y bydd hwn, nid yn unig i Wrecsam, ond i Gymru fel cenedl.
“Rydyn ni'n cydnabod y rôl allweddol y mae amgueddfeydd yn ei chwarae mewn cymunedau a diwylliant ledled Cymru. Ni ddylid tanbrisio eu cyfraniad o ran iechyd a llesiant, eu heffaith economaidd fel atyniadau i ymwelwyr, ac fel adnoddau i ysgolion a dysgu gydol oes."
Bydd yr amgueddfa yn dathlu treftadaeth gyfoethog ac amrywiol pêl-droed Cymru - o glybiau ar lawr gwlad i'r llwyfan rhyngwladol - gyda chasgliadau a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chymunedau ledled Cymru i gynrychioli pêl-droed menywod, y Gymraeg, cymunedau LHDTC+, a phrofiadau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o'r gêm.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Mae wedi bod yn wych gweld y ffilmiau a chynnwys yr orielau a chlywed faint y mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn rhan o waith creu'r amgueddfa, gyda gofal gwirioneddol i sicrhau bod y casgliadau a'r arddangosfeydd yn adlewyrchu ehangder diwylliannau a hanesion pêl-droed Cymru."
Bydd y prosiect ehangach hefyd yn ailddatblygu orielau hanes lleol cyfagos Amgueddfa Wrecsam, gan ddod ag ardaloedd o'r adeilad a oedd yn cael eu tanddefnyddio o'r blaen i ddefnydd cyhoeddus a thrawsnewid profiad ymwelwyr ar gyfer y ddinas a'i hymwelwyr.
Dywedodd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
“Rydym wrth ein bodd i groesawu ein hymwelwyr cyntaf i'r amgueddfa ac i ddatgelu'r brand heddiw. Mae wedi bod yn bleser agor drysau'r orielau pêl-droed a dangos ein gwerthfawrogiad o ran y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.”
Mae'r prosiect hefyd wedi cael ei gefnogi gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Wolfson*, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Cronfa Grant Prynu'r V&A a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.