English icon English

Cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer busnesau yr effeithiodd Storm Claudia arnynt

Additional funding announced for businesses affected by Storm Claudia

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth ariannol pellach i fusnesau yn Sir Fynwy yr effeithiodd Storm Claudia arnynt, gyda grantiau o hyd at £3,000 bellach ar gael.

Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ryddhau i Gyngor Sir Fynwy i helpu busnesau yr effeithiodd llifogydd arnynt i adfer ac ailadeiladu yn dilyn y dinistr diweddar.

Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at y £2.5 miliwn a mwy sydd eisoes ar gael gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y digwyddiad mawr hwn a gafodd ei ddatgan oherwydd tywydd eithafol.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

"Mae Storm Claudia wedi cael effaith ddinistriol ar fusnesau yn Nhrefynwy. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn darparu cymorth ymarferol i helpu busnesau yr effeithiodd y storm arnynt i adfer.

"Rydym wedi ymrwymo i sefyll gyda chymuned fusnes Sir Fynwy yn ystod y cyfnod anodd hwn a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Sir Fynwy i sicrhau bod help yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf."

Roedd y pecyn cymorth cychwynnol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn cynnwys:

  • Grantiau o £500 a £1,000 fesul cartref yr effeithiodd y llifogydd arnynt.
  • Cyllid ar gyfer costau ymateb i argyfwng, gan gynnwys gwacáu, darparu bwyd, gwaredu gwastraff a llogi offer.
  • Cefnogaeth ar gyfer gostyngiadau treth gyngor yn ôl disgresiwn ar gyfer aelwydydd sydd wedi dioddef o lifogydd.
  • Gostyngiadau yn ôl disgresiwn mewn ardrethi annomestig ar gyfer eiddo y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt.

Dylai'r rhai yr effeithiwyd arnynt gysylltu â Chyngor Sir Fynwy i gael rhagor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth am lifogydd a chymorth, ewch i wefan Cyngor Sir Fynwy: Storm Claudia - Sir Fynwy