English icon English
8-54

Datganiad gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ar ddiweddariad i symptomau’r coronafeirws

Statement from the four UK Chief Medical Officers on an update to Coronavirus symptoms

"O heddiw ymlaen, dylai pawb hunanynysu os byddant yn datblygu peswch cyson newydd neu dwymyn neu anosmia.  

"Colli eich synnwyr ogleuo, neu newid ynddo, yw anosmia. Mae’n gallu effeithio ar eich synnwyr blasu hefyd gan fod cysylltiad agos rhwng y ddau.

"Mae’r data a’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ynghylch COVID-19 wedi bod yn cael eu monitro’n agos gennym. Ar ôl ystyried hyn yn drylwyr, rydym bellach yn ddigon hyderus i argymell y mesur newydd hwn.

"Dylai’r bobl eraill sy’n byw yng nghartref yr unigolyn hunanynysu hefyd am 14 diwrnod, yn unol â’r canllawiau cyfredol a dylai'r unigolyn aros gartref am 7 diwrnod, neu’n hirach na hynny os oes ganddo symptomau heblaw peswch neu golli’r gallu i ogleuo neu flasu.”

Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon, Dr Michael McBride

Prif Swyddog Meddygol yr Alban, Dr Gregor Smith

Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty