English icon English

Cod Ymarfer Statudol ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru gam yn nes

Statutory Code of Practice for the delivery of autism services in Wales moves a step closer

Heddiw (24 Mawrth), bydd Cod Ymarfer Statudol ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru yn cael ei osod gerbron y Senedd.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau hynny a’i gwneud yn haws cael gafael arnynt.

Mae’r Cod yn nodi’r gwasanaethau a’r cymorth y gall pobl awtistig ddisgwyl eu cael yn eu cymunedau lleol. Bydd canllawiau cysylltiedig yn rhoi gwybod i bobl awtistig, eu rhieni a’u gofalwyr am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw ac yn codi ymwybyddiaeth o’u hanghenion i wella ansawdd eu bywydau.

Y bwriad yw y bydd y Cod yn dod i rym ar 1 Medi 2021 ac y bydd yn cael ei gefnogi gan gynllun cyflawni wedi’i ddiweddaru ar gyfer y strategaeth awtistiaeth bresennol.

Ar gyfer 2021-22 mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £143,500 i gefnogi’r Strategaeth Awtistiaeth, gan gynnwys £126,500 ar gyfer y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, £28,000 ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i baratoi ar gyfer gweithredu’r Cod Ymarfer Statudol a £4,000 i gefnogi’r gwaith parhaus o ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae £120,000 hefyd wedi’i ddarparu ar gyfer adolygiad galw a chapasiti o’r holl wasanaethau niwroddatblygiadol i ganfod bylchau yn y ddarpariaeth a chefnogi datblygiad gwasanaethau cynaliadwy.

Mae hyn ar ben £3 miliwn arall sy’n cael ei fuddsoddi yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig cenedlaethol ym mlwyddyn ariannol 2021-22.

Mae’r Cod a’r canllawiau wedi’u datblygu mewn partneriaeth agos â phobl awtistig, eu rhieni a’u gofalwyr, yn ogystal â sefydliadau’r trydydd sector, ymarferwyr a gwasanaethau sy’n darparu cymorth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Eluned Morgan: “Mae angen inni greu cymdeithas fwy caredig a sensitif a all ymateb yn gadarnhaol a chefnogi pobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

“Wrth ddatblygu’r Cod a’r canllawiau, rydyn ni wedi ymgysylltu’n helaeth ac yn gyson â’r gymuned awtistig oherwydd ein dyhead i glywed eu barn nhw a deall beth sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd yn gwella ansawdd y gwasanaethau cymorth a gynigir ac yn codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael iddyn nhw.

“Rwy’n falch ein bod wedi gwireddu ein huchelgais i osod y Cod hwn gerbron y Senedd yn ystod y tymor hwn a rhagwelaf y bydd yn dod i rym yn nes ymlaen eleni.”