English icon English

Codi lefel y risg ym Mhrydain Fawr i ‘uchel’ ar ôl cadarnhau achos o ffliw’r adar

Avian Influenza incursion risk raised to high in Great Britain following confirmed cases

Mae Prif Filfeddygon Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn annog ceidwaid adar i gynnal a chryfhau eu mesurau bioddiogelwch rhag i ragor o achosion o ffliw’r adar ddod i’r DU.

Daw’r alwad wrth i’r pedwar Prif Filfeddyg godi heddiw (6 Tachwedd) lefel y risg y gallai adar gwyllt ddod â ffliw’r adar i Brydain Fawr o ‘ganolig’ i ‘uchel’ yn sgil cadarnhau dau achos digyswllt yn Lloegr yr wythnos hon a chynnydd yn nifer yr achosion o’r clefyd mewn heidiau ar dir mawr Ewrop.

Mae pob ceidwad adar yn cael ei annog i amddiffyn ei adar rhag dod i gysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol ag adar gwyllt ac mae lefel y risg o heintio dofednod ym Mhrydain Fawr hefyd wedi’i chodi o ‘isel i ‘ganolig’. Mae adar gwyllt sy’n mudo i’r DU o dir mawr Ewrop yn y gaeaf yn gallu cario’r clefyd i ddofednod ac adar caeth eraill.

Mae lefel y risg y gallai adar gwyllt ddod â ffliw’r adar i Ogledd Iwerddon yn parhau’n ‘ganolig’ a’r risg o heintio dofednod yn parhau’n ‘isel’. Ond byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa.

Dywed pedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU mewn datganiad:

“Ar ôl cadarnhau dau achos o ffliw’r adar yn Lloegr ac achosion eraill ar dir mawr Ewrop, rydym wedi codi lefel y risg y gallai adar mudol ddod â ffliw’r adar i Brydain Fawr i ‘uchel’. Rydym hefyd wedi codi lefel y risg y gallai’r clefyd gael ei gario i ffermydd dofednod ym Mhrydain Fawr i ‘ganolig’. Er bod lefel y risg yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer adar gwyllt yn ganolig ac yn isel ar gyfer dofednod, rydym yn cadw golwg ar y sefyllfa.

“Rydym wedi gweithredu’n gyflym i rwystro’r clefyd ar y ddau safle yn Lloegr rhag lledaenu ac rydym yn cadw golwg glos ar y sefyllfa. Dylai ceidwaid adar gadw’n effro am unrhyw arwyddion o’r clefyd a’n hysbysu ar unwaith os oes ganddynt unrhyw amheuon.  

“Mae’n bwysicach nawr nag erioed bod ceidwaid adar yn sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i gynnal a chryfhau mesurau bioddiogelwch ar eu ffermydd i osgoi unrhyw achosion pellach.”  

Mae gan y DU fesurau bioddiogelwch a monitro i rwystro’r clefyd rhag lledaenu yn y wlad hon ac mae’r risg o drosglwyddo feirysau ffliw’r adar i’r cyhoedd yn y DU yn parhau’n isel iawn.

Mae yna nifer o fesurau syml y dylai pawb sy’n cadw adar, boed ychydig o ieir yn yr ardd gefn neu adar ar gyfer eu hela neu ar fferm fasnachol fawr, eu cymryd i ddiogelu’u hadar rhag ffliw’r adar dros fisoedd y gaeaf.

 Sef:

  • Cadw’r lle rydych yn cadw’ch adar yn lân ac yn dwt, gan reoli llygod mawr a bach a glanhau a diheintio arwynebau caled yn rheolaidd
  • Glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweliadau
  • Gosod bwyd a dŵr yr adar mewn mannau caeedig, wedi’u diogelu rhag adar gwyllt, a chymhennu’n rheolaidd unrhyw fwyd sydd wedi sarnu
  • Codi ffens o gwmpas y rhannau awyr agored y mae’r adar yn cael mynd iddynt, a’u rhwystro rhag mynd i byllau dŵr a mannau eraill y mae hwyaid a gwyddau gwyllt yn cael mynd atynt.
  • Lle medrwch, peidiwch â chadw hwyaid a gwyddau gyda dofednod eraill.
  • Mae’r Llywodraeth yn parhau i gadw golwg am achosion o ffliw’r adar ac mae’n gweithio gyda’r diwydiannau dofednod ac adar hela a chymdeithasau ailgartrefu ieir a chymdeithasau bridiau traddodiadol i’w helpu i leihau’r risg o ddal y clefyd.