English icon English
Vaughan Gething

Codi’r gwaharddiad ar ddefnyddio rhoddion plasma o’r DU i wneud meddyginiaeth

Ban lifted on using UK plasma donations to make medicines

Yn unol â chytundeb rhwng y pedair gwlad, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething heddiw (dydd Iau 25 Chwefror) wedi cyhoeddi y bydd y gwaharddiad ar ddefnyddio plasma o’r DU i wneud meddyginiaeth yn cael ei godi.

Daw hyn yn sgil adolygiad gan y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol (CHM) a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Cafodd y gwaharddiad ei gyflwyno yn y DU yn 1999 mewn ymateb i epidemig amrywiolyn Creutzfeld–Jakob (vCJD), y credir iddo fod yn gysylltiedig â bwyta cynhyrchion cig wedi’u heintio â BSE, sef “clefyd y gwartheg gwallgof”.

Ers cyflwyno’r gwaharddiad, mae cynhyrchion meddyginiaethol sy’n deillio o blasma wedi gorfod cael eu mewnforio, yn bennaf o’r Unol Daleithiau ar hyn o bryd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

"Mae’r angen i fewnforio plasma i’r DU wedi golygu bod GIG Cymru wedi gorfod blaenoriaethu cyflenwi meddyginiaethau i gleifion â’r angen clinigol mwyaf.

“Mae’r pandemig yn rhoi rhagor o bwysau ar y cyflenwad hwnnw oherwydd yr angen cynyddol am blasma gwaed i ddatblygu meddyginiaethau Covid-19 newydd ynghyd â’r gostyngiad mewn rhoddion plasma gwaed.

“Yn dilyn sawl adolygiad o’r dystiolaeth, rydym wedi cael ein cynghori bod plasma o’r DU yn ddiogel i gynhyrchu’r meddyginiaethau hyn ac felly rwyf i, ynghyd â’r gweinidogion iechyd eraill yn y DU, wedi codi’r gwaharddiad. Mae gan hyn y potensial i achub bywydau a bydd yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser:

“Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn croesawu’r penderfyniad i gael gwared yn ddiogel â’r gwaharddiad ar ddefnyddio plasma o’r DU i gynhyrchu meddyginiaeth.

“Mae’r rhoddion gwaed cyfan yr ydym yn eu cael eisoes yn helpu i ddarparu plasma clinigol ar gyfer triniaethau penodol, megis cefnogi cleifion sydd ag anafiadau llosgi.

“Mae gwaith pellach i’w wneud, ond bydd ein gwasanaeth nawr yn ystyried gyda Llywodraeth Cymru beth yw’r ffordd orau inni fanteisio ar y cyfle hwn er lles pobl Cymru.”