Codi’r mesurau arbennig sydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Betsi Cadwaladr University Health Board taken out of special measures
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cadarnhau heddiw (dydd Mawrth 24 Tachwedd) na fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach o dan fesurau arbennig.
Yn hytrach na bod o dan fesurau arbennig bydd y bwrdd iechyd yn destun ymyrraeth wedi’i thargedu, a daw’r newid i rym ar unwaith. Daeth y mesurau arbennig i ben ar gyfer rhai gwasanaethau yn 2019, gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau y tu allan i oriau arferol.
Dywedodd Vaughan Gething: “Rwyf wedi penderfynu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei symud o fesurau arbennig i ymyrraeth wedi'i thargedu. Rwyf wedi seilio fy mhenderfyniad ar y cyngor a dderbyniais yn sgil cyfarfod rhwng Prif Weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru.
“Rydym wedi gweld gwelliannau ar draws y bwrdd iechyd ac mae gennym fwy o ffydd y bydd yn gwneud rhagor o gynnydd. Trwy gydol y pandemig mae’r sefydliad wedi gweithio’n galed i wneud ei ran i ofalu am bobl y mae’r feirws wedi effeithio arnynt. Ar adeg gythryblus ym maes iechyd y cyhoedd drwy’r byd, rwy’n falch o gyhoeddi’r newyddion cadarnhaol hwn ar gyfer y Gogledd ac ar gyfer GIG Cymru.
“Hoffwn ddiolch i bawb yn y bwrdd iechyd sydd wedi cyfrannu at wella gwasanaethau. Ymrwymiad a gwaith caled y staff sydd wedi gwneud y gwelliannau’n bosibl. Er bod pethau wedi gwella, mae rhai meysydd o bryder o hyd, er enghraifft iechyd meddwl, ac mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod yn llwyr bod gwaith pellach i’w wneud o hyd. Mae ymyrraeth wedi'i thargedu yn dal i fod yn lefel ddwys o uwchgyfeirio sy'n gofyn am weithredu sylweddol gan y bwrdd iechyd.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo swm ychwanegol o £82m y flwyddyn dros gyfnod o dair blynedd a hanner i gefnogi’r bwrdd iechyd wrth iddo gychwyn ar gyfnod newydd o dan ymyrraeth wedi’i thargedu a bwrw ymlaen â’i waith o wneud gwelliannau. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cael ei ddefnyddio i wella gofal heb ei drefnu; i ddatblygu gofal wedi’i drefnu sy’n gynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg; ac i gyflawni gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl.”