English icon English
Bird Register-2

Cofrestru adar yn orfodol yn dod i rym yn fuan: Cofrestrwch nawr!

Mandatory bird registration coming into force soon: Register now!

O 1 Hydref 2024 bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad adar yng Nghymru (a Lloegr) gofrestru eu hunain gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Yn flaenorol, dim ond ceidwaid â 50 neu fwy o adar oedd yn gyfreithiol ofynnol iddynt gofrestru eu hadar. Bydd y gofyniad newydd hwn yn golygu bod yn rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gofrestru waeth beth yw maint eu haid. 

Mae mwy na 2,000 o geidwaid heidiau bach o ddofednod ac adar caeth eraill ledled Cymru eisoes wedi cofrestru cyn y dyddiad cau cyfreithiol ar 1 Hydref.

Drwy gofrestru, byddwch yn derbyn diweddariadau ac arweiniad os oes achos o glefydau, fel ffliw adar, yn eich ardal.

Byddwch hefyd yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu ac amddiffyn yr holl adar a gedwir, gan gynnwys heidiau iardiau cefn.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig: "Bydd y gofyniad newydd hwn yn ein galluogi i gyfathrebu â cheidwaid adar yn effeithiol, sy'n hanfodol i'n helpu i reoli achosion o glefydau fel ffliw adar.

"Rydym yn annog pob ceidwad yng Nghymru i gofrestru eu hadar cyn y dyddiad cau cyfreithiol ar 1 Hydref."

Dywedodd Richard Irvine, CVO Cymru: "Bydd y gofynion cofrestru newydd o 1 Hydref yn helpu ceidwaid adar i ddiogelu eu heidiau. Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gallu cysylltu â cheidwaid adar os oes achosion o glefyd hysbysadwy yn eu hardal, fel ffliw adar, i'w hysbysu am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal clefydau rhag lledaenu.

"Mae'n bwysig cofio bod hylendid a bioddiogelwch craff yn parhau i fod yn hanfodol i ddiogelu heidiau rhag bygythiad afiechydon. 

"Mae ceidwaid adar wedi gweithio'n galed i ddiogelu eu heidiau rhag peryglon ffliw adar yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am ddiolch iddynt am eu hymdrechion parhaus."

Bydd yn ofynnol i geidwaid adar adolygu eu cofnod ar y gofrestr ddofednod yn flynyddol er mwyn sicrhau bod eu manylion yn gyfredol a bod unrhyw newidiadau'n cael eu cofnodi.

Dim ond adar sy'n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes ac sy'n byw dan do drwy'r amser heb unrhyw fynediad i'r awyr agored sy'n cael eu hesemptio rhag cofrestru. Rhaid cofrestru mathau eraill o adar caeth a phob haid dofednod yn ôl y gyfraith o’r 1 Hydref ymlaen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:  Dofednod ac adar caeth eraill: rheolau a ffurflenni cofrestru | LLYW.CYMRU