English icon English
HJ-Mighty-411A6117-2

Cogydd enwog yn cefnogi’r ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’ mewn cais i arwain ar ailgylchu.

Celebrity chef backs campaign to ‘Be Mighty, Recycle’ in bid to become recycling leader

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ymgyrch newydd i gael pobl yng Nghymru i ailgylchu mwy mewn cais i arwain y byd ar ailgylchu. 

Wedi ei lansio yn ystod Wythnos Ailgylchu (21 – 27 Medi), mae’r ymgyrch o dan  aweiniad y cogydd, yr awdur a’r rhedwr marathon eithafol Matthew Pritchard, yn gofyn i bawb ‘Bydd Wych, Ailgylcha’ drwy wneud newidiadau bychain ond pwysig i sut yr ydym yn ailgylchu ac yn gwthio Cymru at rif un.

Mae Cymru wedi dod yn bell ers 1999, gan gynyddu ailgylchu o 5% i dros 60%.  Er ei bod y wlad orau yn y DU, yr ail yn Ewrop a’r drydedd yn y byd am ailgylchu gwastraff yn y cartref, mae llawer i’w wneud eto os yw Cymru i arwain y byd. 

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw dod yn genedl ddi-wastraff erbyn 2050, ond nid delio gyda gwastraff yn unig yw ailgylchu, mae hefyd yn lleihau allyriadau tŷ gwydr ac yn darparu adnoddau i wneud cynnyrch newydd. 

Tra bod Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o wastraff trefol erbyn 2025, roedd gwaith ymchwil diweddaraf WRAP Cymru yn datgelu bod bron hanner dinasyddion Cymru yn rhoi o leiaf un eitem yn y bin sbwriel pan y gellid ei ailgylchu. 

Mae pob cartref wedi chwarae eu rhan i fynd mor bell â hyn, ond mae angen i Gymru fod ‘yn wych’ ac ailgylchu cymaint â phosibl.  Golyga hyn y gallwn ddefnyddio’r deunydd sydd wedi’i ailgylchu yn hytrach na deunydd crai, fydd hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. 

Gyda gwastraff bwyd yn cael ei gasglu o 99% o gartrefi, un newid bychan y gall pob cartref ei wneud, yw ailgylchu eu gwastraff bwyd yn well.  Mae bron chwarter y sbwriel yn wastraff bwyd.  Gyda mwy o bobl yn bwyta yn eu cartrefi yn ystod y cyfnod clo ac yn gweithio o gartref, mae’n bwysicach nag erioed gwneud yn siŵr y caiff pob gwastraff bwyd ei ailgylchu, a’i droi yn ynni adnewyddadwy i greu pŵer ar gyfer cartrefi a chymunedau ledled y wlad.  

Mae ‘Bydd Wych, Ailgylcha’ yn annog mwy o ailgylchu o bob math, gan gynnwys eitemau fel aerosol, poteli siampŵ a jel cawod, sydd yn cael eu diystyru yn aml. 

Wrth lansio’r ymgyrych yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Efallai bod Cymru yn wlad fechan ond pan ddaw i ailgylchu, rydyn ni yn gwneud llawer gwell na gwledydd eraill.  Mae ein hymdrechion gydag ailgylchu wedi dod yn amlwg ledled y byd, ac yma yng Nghymru mae wedi dod yn rhan o’n diwylliant.  Rydyn ni wedi dangos ein bod yn arwain ym maes ailgylchu ac mae pawb wedi chwarae eu rhan. 

Ond fe wyddom bod camau hawdd i’w cymryd i’n helpu i gyrraedd rhif un.  Dros y misoedd nesaf, pan fu inni dreulio mwy o amser gartref, rydyn ni wedi dod yn ymwybodol o’r gwastraff y gallwn ei gynhyrchu.  Mae’n bwysig bod pobl yn ailgylchu popeth y gallant – o ddeunydd pacio archebion ar-lein, cyflenwadau dysgu gartref a gwastraff bwyd.      

“Rydyn ni ar daith bwysig i greu economi gylchol trwy ddefnyddio adnoddau am gyhyd â phosibl ac osgoi gwastraff.  Mae’r ymgyrch hwn yn tynnu sylw at y newidiadau y gall pob person ledled y wlad ei wneud i fod yn wych a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.” 

Mae Matt Pritchard, cogydd fegan, awdur ac athletwr eithafol, yn cefnogi’r ymgyrch.  Meddai:

“Dwi bob amser yn barod am her a dyna pam fy mod yn cefnogi ymgyrch wych Cymru i ddod yn rhif un yn y byd am ailgylchu.   

Mae ymuno â’r gweithwyr wrth iddynt gasglu y deunydd ailgylchu wedi agor fy llygaid.  Gallaf weld drosof fy hun cymaint o wastraff bwyd sydd eisoes yn cael ei gasglu o gartrefi pobl, mae tunelli ohono!  Ac mae’r holl wastraff bwyd yma yn rhoi pŵer inni – pan gaiff ei gasglu a’i drin a’i droi yn drydan ar gyfer ein cartrefi.    

Mae llawer i’w wneud eto.  Os ydych, fel fi yn treulio llawer o amser yn y gegin, gwnewch yn siŵr bod eich holl wastraff bwyd anfwytadwy yn mynd i’r lle iawn.  Gall croen ffrwythau a llysiau, bagiau te a gweddillion coffi yn ogystal ag unrhyw fwyd oddi ar blatiau, wedi’u coginio neu beidio, fynd i’ch bin gwastraff bwyd.  Mae’n hawdd i’w wneud ac yn rhywbeth y gallwn i gyd ei wneud i greu Cymru lanach a gwyrddach.  Felly, mae’r her yno – beth am wneud Cymru yn rhif un.”   

Meddai Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru, yr elusen y tu ȏl i Ailgylchu Cymru:

“Mae’r rhan fwyaf ohonom yng Nghymru yn ailgylchu ac yn deall y gwahaniaeth y gall ei wneud – mae’n golygu bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi ac yn gwneud inni ddibynnu llai ar ddeunydd crai.  Mae gennym ddigon i fod yn falch ohono, ond os ydym am gyrraedd rhif un, allwn ni ddim rhoi’r gorau nawr. 

Gallwn ailgylchu mwy o eitemau o’r cartref, o wastraff bwyd i nwyddau’r ystafell ymolchi, a gwneud hynny yn fwy cyson i helpu i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd.  Rydym am atgoffa pobl y bydd cymryd camau syml yn gwneud gwahaniaeth mawr i helpu inni gyrraedd ein nod o ddod y genedl ailgylchu orau yn y byd.”