Comisiwn Cenedlaethol newydd i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Constitutional future of Wales to be considered by new National Commission
- Corff annibynnol a sefydlog, wedi’i sefydlu i roi cyngor, tystiolaeth a dadansoddiad ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
- Bydd dau gyd-gadeirydd newydd yn arwain, gan adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol.
- Y Comisiwn i ddarparu cyngor annibynnol ar flaenoriaethau datganoli, ymgysylltu â phobl ledled Cymru a chryfhau'r sylfaen dystiolaeth i lywio'r gwaith diwygio yn y dyfodol.
Bydd dau gyd-gadeirydd yn arwain cam nesaf y sgwrs am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru drwy Gomisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru.
Bydd y Comisiwn yn gorff annibynnol a sefydlog, wedi’i sefydlu i roi cyngor, tystiolaeth a dadansoddiad ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Rôl gynghori fydd gan y Comisiwn a bydd yn darparu fforwm parhaol i hybu trafodaethau a dadleuon gwybodus yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd yn wahanol o ran ei natur i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a fu'n weithredol am gyfnod penodol. Bydd y Comisiwn Cenedlaethol newydd yn adeiladu ar waith blaenorol yn hytrach na'i ailadrodd.
Dan arweiniad y Cyd-gadeiryddion, y Fonesig Menna Rawlings a'r Athro Emyr Lewis, bydd gan y Comisiwn bedair swyddogaeth graidd, sef:
- Darparu cyngor annibynnol ar flaenoriaethau datganoli, gan gynnwys meysydd fel Ystad y Goron, seilwaith rheilffyrdd, cyfiawnder a phlismona.
- Cefnogi sgwrs genedlaethol barhaus am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan ymgysylltu â phobl ledled Cymru a chefnogi trafodaeth gyhoeddus gynhwysol a gwybodus.
- Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynnal trafodaethau a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol drwy ymchwil ar gwestiynau gwleidyddol, economaidd a democrataidd allweddol sy’n berthnasol i ddyfodol Cymru.
- Helpu i lywio'r gwaith diwygio yn y dyfodol drwy ystyried y tri opsiwn ymarferol a nodwyd gan y Comisiwn Annibynnol, sef atgyfnerthu datganoli, Teyrnas Unedig ffederal, ac annibyniaeth.
Wrth gyhoeddi Cylch Gorchwyl y Comisiwn, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies y bydd yn adeiladu ar waith pwysig y mae Cymru eisoes wedi'i wneud gan nad yw'r ddadl gyfansoddiadol yn aros yn ei hunfan:
“Mae’r ffordd mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei strwythuro a’i llywodraethu o dan straen cynyddol, ac mae’r dadleuon am ddatganoli, atebolrwydd a ble dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn dod yn fwyfwy pwysig.
“Mae llywodraethu cyfrifol yn golygu sicrhau bod Cymru’n barod i lunio ei dyfodol ei hun, a hynny gyda’r dystiolaeth, y cyngor a’r gofod democrataidd sydd eu hangen i wneud dewisiadau gwybodus. Nid dadl haniaethol yw hon. Mae’n ddadl sy’n ystyried a oes gan Gymru yr adnoddau, y pwerau a’r trefniadau democrataidd priodol i sicrhau canlyniadau gwell i’n pobl.
“Dyw’r gwaith paratoi hwnnw ddim yn gallu bod yn waith i’r Llywodraeth yn unig. Mae’n gofyn am drafodaeth eang, agored ac adeiladol ar draws y Senedd hon ac ar draws Cymru.
“Fe ddylai datblygiad cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol gael ei siapio gyda phobl ledled Cymru, nid dim ond cael ei gyflwyno iddyn nhw.
“Gyda’n gilydd, mae gennym ni gyfle i helpu i lunio dyfodol hyderus, democrataidd ac uchelgeisiol i Gymru.”
Nodiadau i olygyddion
Dame Menna Rawlings has enjoyed a distinguished career in British public service and diplomacy, including as His Majesty’s Ambassador to France and British High Commissioner to Australia. She offers a wealth of experience in government and international affairs, together with a wide-ranging perspective on constitutional and governance questions shaped by her work in the UK and overseas.
Professor Emyr Lewis is a distinguished academic and practising lawyer with deep expertise in constitutional law, devolution and the legal framework of Wales. He brings significant experience of Welsh public life, of advising and commenting on Welsh public law and civic debate, and will help ensure the Commission's work is grounded in rigorous analysis and a strong understanding of Wales's constitutional context.