English icon English

Contract wedi’i ddyfarnu ar gyfer gwelliannau i’r A465

Contract awarded for A465 improvements

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod contract i wneud gwelliannau i Adrannau 5 a 6 o’r A465 wedi cael ei ddyfarnu i gonsortiwm ‘Future Valleys’, yn dilyn eu penodi fel y Cynigydd a Ffefrir ym mis Mehefin.

Mae Adrannau 5 a 6 yn ddarn o ffordd 18km o hyd rhwng Dowlais Top, Merthyr Tudful a Hirwain. Yr adrannau hyn yw rhan orllewinol y rhaglen ddeuoli ehangach, a bydd eu hadeiladu’n cwblhau’r gwaith o ddeuoli’r A465, un o ymrwymiadau hirdymor Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn troi’r ffordd tair lôn yn ffordd â dwy lôn ym mhob cyfeiriad. Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau o ddifri yn gynnar yn 2021 ac yn cael ei gwblhau erbyn canol 2025.

Mae Future Valleys (FCC, Roadbridge, Meridiam, Alun Griffiths (Contractwyr) ac (Atkins) yn cynnwys cwmnïau adeiladu rhyngwladol mawr ynghyd â buddsoddwyr ariannol sefydlog – a chan bob un gryn brofiad o weithio mewn partneriaeth gyda’r sector cyhoeddus. Maent wedi cael eu partneru â chontractwyr a thimau dylunio o Gymru sydd â gwybodaeth am yr ardal a’r gadwyn gyflenwi leol.  

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae’n dda gen i ein bod wedi llwyddo i ddyfarnu’r contract i wneud y gwelliannau hyn i Future Valleys. Mae’r A465 yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith ffyrdd strategol, ac ar ôl iddo gael ei chwblhau bydd yn ffordd uchel ei hansawdd i’w defnyddio yn lle’r M4, ac yn gyswllt allweddol ar draws gogledd y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru. Bydd hefyd yn gwella cyfleusterau teithio llesol a mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol.    

“Bydd y gwaith yn rhoi ffocws cryf i sicrhau buddion cymunedol, gan ategu amcanion Tasglu’r Cymoedd. Bydd y rhain yn cynnwys prentisiaethau a hyfforddiant; cyflogaeth ar gyfer pobl a busnesau lleol; ymgysylltu ag ysgolion a cholegau; a chefnogi grwpiau a digwyddiadau cymunedol.

“Er y bydd aflonyddu wrth i’r prosiect gael ei adeiladu yn anochel, mae’r contract yn ei gwneud yn ofynnol i Future Valleys liniaru’r effeithiau hyn, gyda chosbau ariannol am fethu gwneud.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

“Mae’r buddsoddi drwy’r cynllun hwn yn hanfodol wrth inni geisio helpu’r ardal i adfer o effeithiau cymdeithasol ac economaidd y coronafeirws. Amcangyfrifir y bydd £400 miliwn o gyllid y prosiect yn cael ei wario yng Nghymru – £170 miliwn yn ardal Blaenau’r Cymoedd, gan ychwanegu £675 miliwn posibl at economi ehangach Cymru.  

“Rwyf wrth fy mod ein bod yn gallu cyflawni’r prosiect hwn – y cyntaf i gael ei gyflawni drwy ein Model Buddsoddi Cilyddol newydd. Mae cyflawni’r cynllun yn y ffordd hon yn rhoi’r cyfle gorau i gwblhau’r cynllun cyn gynted ag y bo modd. Mae bod â phrosiect seilwaith mor fawr yn yr arfaeth o fewn y rhanbarth yn rhoi potensial gwirioneddol i gyflymu adferiad yr ardal.”