Coronavirus: Prif Weinidog Cymru
Coronavirus: A message from the First Minister of Wales
Rwy’n gwybod bod llawer ohonoch yn pryderu ynghylch haint byd-eang coronofeirws, wrth i nifer yr achosion gynyddu yng Nghymru
Mae’r sefyllfa’n symud yn gyflym. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae nifer y bobl sydd â coronafeirws wedi cynyddu’n raddol yn y DU ac mae cannoedd o bobl bellach yn cael triniaeth ysbyty. Gallwn ddisgwyl gweld llawer rhagor o achosion yng Nghymru.
Rydym yn gweithio’n galed i arafu lledaeniad y feirws. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i ymateb i’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu. Rydym yn dibynnu ar gyngor arbenigol ac yn defnyddio’r holl arbenigedd yr ydym wedi’i ddatblygu wrth drin clefydau heintus eraill ac wrth gynllunio ar gyfer ffliw.
Ond mae angen eich cymorth chi arnom.
Os oes gennych beswch cyson newydd neu dymheredd uchel, rydym yn gofyn ichi aros gartref am saith diwrnod. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu pobl eraill yn y gymuned leol rhag cael eu heintio, yn enwedig pobl hŷn, sydd fwyaf mewn perygl.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn aros gartref tra mae gennych symptomau. I’r mwyafrif, ni fydd coronafeirws yn achosi salwch difrifol ond fe fydd i rai pobl, a bydd angen triniaeth ysbyty arnynt. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod rhai pobl wedi marw.
Mae’n bosibl y bydd angen inni gyflwyno mesurau eraill i ddiogelu’r bobl sydd fwyaf mewn perygl. Bydd pob penderfyniad a wnawn wedi’i seilio ar gyngor arbenigol a byddwn yn rhoi gwybod i bobl beth sy’n digwydd.
Cyngor y Swyddfa Dramor yw y dylid canslo pob taith dramor i fyfyrwyr o dan 18 mlwydd oed ac na ddylai pobl dros 70 oed fynd ar wyliau ar long bleser.
Nid yw cyngor arbenigol yn cefnogi cau ysgolion ar hyn o bryd ac nid ydym eto wedi cyrraedd y pwynt lle rydym yn cynghori sefydliadau i ganslo neu ohirio digwyddiadau, ond gallai hynny ddigwydd.
Rwyf wedi penderfynu canslo cynhadledd Plaid Lafur Cymru yn Llandudno ddiwedd mis Mawrth er mwyn sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar gael i ddelio gyda sefyllfa coronafeirws drwy’r amser.
Byddwn yn cymryd pwerau newydd i Gymru o’r Bil Coronafeirws, sy’n fil ledled y DU ac a gyflwynir yr wythnos hon, i helpu ein systemau a’n gwasanaethau i weithio’n fwy effeithiol i fynd i’r afael â’r haint hwn. Mae pob un o’r pedair llywodraeth wedi cytuno mai un ddeddfwriaeth i’r DU gyfan yw’r peth gorau o dan yr amgylchiadau.
Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws ar gael ar ein gwefan yn https://llyw.cymru/coronafeirws a https://gov.wales/coronavirus
Mae gwiriwr symptomau ar-lein GIG 111 ar gael yma: https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/SelfAssessments/symptomcheckers/default.aspx?ScName=CoronaVirusCOVID19&SCTId=175&locale=cy
Cofiwch wneud popeth y gallwch chi i’ch helpu’ch hun ac eraill i aros yn ddiogel ac yn iach.
Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru