English icon English

COVID-19: Prif Swyddog Meddygol Cymru yn cadarnhau dwy farwolaeth bellach yng Nghymru

AMENDED: Dr Frank Atherton confirms a further two people in Wales have died after contracting COVID-19.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

“Gyda thristwch rwyf yn datgan bod dau yn rhagor o bobl sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 wedi marw. Mae hyn yn mynd â nifer y marwolaethau yng Nghymru i bump.

“Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad didwyll â’u teuluoedd a’u ffrindiau, a gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser trist yma.

“Roedd y cleifion yn 75 oed, fu farw yn Ysbyty Singleton, a 98 oed, fu farw yn Ysbyty Gwynedd. Roedd gan y ddau glaf gyflyrau sylfaenol.”