English icon English

Creu cronfa £5m i gefnogi arloesi mewn addysg bellach

£5m fund to be created to support innovation in Further Education

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi bod Cronfa Arloesi newydd o £5m i gael ei sefydlu i gefnogi colegau addysg bellach i edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi dysgwyr.

Bydd y gronfa yn buddsoddi mewn prosiectau i gefnogi dysgwyr mewn meysydd allweddol, gan gynnwys datblygu sgiliau, lles, gwytnwch a’r gallu i addasu, gan helpu colegau addysg bellach i gydweithio ar yr un pryd.

Mae cefnogi creadigrwydd yn ganolog i’r gronfa, gan annog colegau i ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio a pharhau i sicrhau bod Cymru yn lle y mae pobl o bob oed yn cael addysg o ansawdd. Mae colegau eisoes wedi gweithredu mentrau llwyddiannus fel Prentisiaethau Iau, Biwroau Cyflogaeth a rhaglenni Dysgu Carlam; bwriad y gronfa yw ehangu ar y rhaglenni hyn sydd eisoes yn llwyddiannus.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Gweinidog hefyd wedi dyrannu cyllid pellach i golegau addysg bellach i helpu gyda chostau cynyddol. Caiff dros £2.5m ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr sy’n dilyn rhaglenni galwedigaethol drwy helpu colegau i dalu costau uwch deunyddiau traul fel coed a dur, sy’n hanfodol i gyrsiau galwedigaethol megis adeiladu.

Bydd y Gronfa Ariannol Wrth Gefn hefyd yn cael hwb o £1.345m. Mae’r gronfa yn cefnogi dysgwyr sy’n profi caledi ariannol, gan eu galluogi i allu manteisio ar addysg coleg. Dylai dysgwyr a allai fod yn gymwys cysylltu â'u coleg.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae’r argyfwng costau byw yn her sylweddol i golegau, felly mae angen inni edrych ar ffyrdd newydd o weithio. Bydd y Gronfa Arloesi yn caniatáu i ddarparwyr addysg bellach ystyried ffyrdd newydd creadigol o weithio a chydweithio ag eraill yn y sector er budd dysgwyr.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld cysyniadau newydd, a dw i’n gwybod y bydd darparwyr yn ymateb i’r her.

“Ddylai costau byw fyth rwystro pobl rhag cael addysg felly mae’n bleser gen i gynnyddu’r cyllid i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, a fydd yn gallu helpu mwy o ddysgwyr. Mae hyn yn gallu helpu gyda chostau fel prydau bwyd, gofal plant a theithio i sicrhau bod dysgwyr gyda incwm isel yn gallu parhau i ddysgu."