Creu tonnau: gwersi nofio i blant ysgol yn dechrau yng Nghymru
Making waves: swimming lessons for school children begin in Wales
O'r mis hwn, bydd disgyblion ar draws blwyddyn 4 a 5 mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru yn dechrau derbyn o leiaf 20 awr o wersi nofio a diogelwch dŵr, fel rhan o ymrwymiad gan Lywodraeth newydd Cymru.
Mae Nofio Ysgol yn rhaglen gyffredinol lle bydd disgyblion yn dysgu am hyder yn y dŵr, hunan-achub a galluoedd nofio sylfaenol
Bydd naw awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y cam cyntaf, sy'n dechrau ym mis Medi, cyn cael ei gyflwyno'n llawn ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Lansiwyd Nofio Ysgol yn swyddogol ddydd Mercher [23ain] gydag ymweliad â Chanolfan Hamdden Penlan yn Abertawe gan y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, a'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, lle roedd disgyblion o ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gwersi nofio.
Wrth siarad yn ystod y lansiad, dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae dysgu bod yn ddiogel ac yn hyderus o amgylch dŵr yn sgil bywyd allweddol ac yn un y gallwch ei ddefnyddio o blentyndod drwy weddill eich bywyd. Mae wedi bod yn wych siarad â disgyblion yma ym Mhenlan heddiw a gweld plant yr ysgol yn mwynhau eu gwers ac yn magu hyder yn y pwll.
"Edrychaf ymlaen at weld Nofio Ysgol yn tyfu ledled Cymru gyfan fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau a allai achub eu bywyd un diwrnod."
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Mae mor bwysig bod plant ym mhob rhan o Gymru yn dysgu sgiliau nofio a diogelwch dŵr gwerthfawr. Ond, mae mwy i'r rhaglen na dysgu disgyblion i nofio. Mae'n ymwneud â rhoi sylfaen i bob disgybl yng Nghymru ddatblygu arferion gydol oes sy'n cefnogi eu llesiant corfforol a meddyliol.
"Mae'r cyflwyniad graddol hwn yn golygu y gallwn ddysgu'r hyn sy'n gweithio orau wrth inni baratoi i ymestyn y rhaglen gyffredinol hon i bob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2028. Rwyf am ddiolch i Nofio Cymru a'r naw awdurdod braenaru am eu gwaith wrth baratoi i gyflawni'r cynllun hwn."
Dywedodd Fergus Feeney, Prif Weithredwr Nofio Cymru:
"Mae Nofio Ysgol yn gam sylweddol ymlaen i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau nofio a diogelwch dŵr hanfodol. Mae gallu nofio yn bwysig, nid yn unig ar gyfer iechyd a lles, ond mae'n sgil achub bywyd a all roi hyder i blant yn y dŵr ac o'i amgylch drwy gydol eu bywydau.
Rydym yn hynod falch o fod yn darparu'r rhaglen nodedig hon ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol braenaru.
Mae heddiw'n nodi dechrau taith gyffrous, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd Nofio Ysgol yn ei chael ar ddegau o filoedd o bobl ifanc a'u teuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru."
Y naw awdurdod lleol yw: Ynys Môn, Gwynedd, Wrecsam, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.