English icon English

Crisialu dyfodol cymorth gwledig i’r gwledydd datganoledig ar ôl Brexit

Clarity on future rural funding for devolved administrations post EU exit

Cyn Adolygiad Gwariant y DU, mae’r gweinyddiaethau datganoledig wedi ysgrifennu unwaith eto gyda’i gilydd at Lywodraeth y DU yn gofyn am addewid y byddai holl arian yr UE a gollir yn cael ei dalu yn ôl er mwyn rhoi sicrwydd i’r economi wledig.

Yn y llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, George Eustice AS, gofynnodd Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros yr Economi Wledig a Thwristiaeth, Fergus Ewing ASA, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths AS a Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, Edwin Poots MLA unwaith eto ar i Lywodraeth y DU gadw eu haddewid i ffermwyr y DU na fydden nhw ar eu colled yn sgil ymadael â’r DU. Mynnon nhw hefyd fod Llywodraeth y DU yn dod i drafod â nhw.


Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths: “Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau na ddylai Cymru golli’r un geiniog o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae Llywodraeth y DU yn torri’r addewid yn eu maniffesto i ddarparu arian cyfatebol llawn ac mae hyn yn cael effaith anghymesur ar Gymru. Oni chawn gydnabyddiaeth ar fyrder gan y Trysorlys, bydd ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig dros £200m ar eu colled. Mae’n bosibl osgoi hyn, a rhaid gwneud hynny gostied a gostio ac rwy’n annog Llywodraeth y DU i gadw eu haddewid a rhoi eglurder i’n cymunedau ffermio.”


Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yr Alban dros yr Economi Wledig a Thwristiaeth Fergus Ewing ASA: “Mae’n annerbyniol bod Llywodraeth y DU yn gwrthod trafod â’r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch cyllid y dyfodol ac i bob golwg, maen nhw’n torri’u haddewid. A hithau mor hwyr yn y broses, mae’n edrych yn debyg y bydd ffermwyr a chymunedau gwledig y pedair gwlad yn cael eu cosbi oherwydd Brexit ac nid ydym yn barod i dderbyn hynny. Rydym wedi gofyn droeon am eglurder a sicrwydd ond ymddengys nad oes clust i’n clywed ac mae amser yn prinhau. Mae Llywodraeth y DU yn gwrthod parchu’r gweinyddiaethau datganoledig ac wedi torri’u hymrwymiad trwy beidio â thrafod â ni fel cydraddolion i benderfynu sut i ddyrannu’r arian fydd yn y pen draw yn effeithio ar bob un ohonom.”

Dywedodd Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, Edwin Poots MLA, “Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro am eglurder gan Lywodraeth y DU ac iddi ennyn fy hyder y safai’n gadarn dros ei hymrwymiad i ddiogelu pobl mewn cymunedau gwledig a ffermwyr yng Ngogledd Iwerddon rhag caledi ariannol diangen. Ni allwn oddef hyd yn oed ystyried dyfodol lle y gallai’r gweinyddiaethau datganoledig ddioddef anfantais. Ychydig oriau sydd tan y caiff yr adolygiad gwariant ei gyhoeddi ac mae’r cloc yn tician – yn groch yn ein clustiau. Rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod bod cyfrifoldeb arni i drafod mewn ffordd ystyrlon â ni a sicrhau bod arian yn cael ei ddyfarnu, nid yn unig mewn ffordd sy’n deg a chywir, ond yn y ffordd yr addawodd y Llywodraeth y byddai’n gwneud.”