Croesawu cannoedd yn ôl i weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
Hundreds to be welcomed back to Wales’ health and social care workforce
Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd cannoedd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn dychwelyd yn fuan i’w gyrfaoedd blaenorol i helpu i ddelio â COVID-19.
Yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i’r rhai a oedd wedi gadael swyddi iechyd a gofal cymdeithasol yn y 3 blynedd diwethaf i ymuno â chofrestr dros dro i lenwi swyddi clinigol ac anghlinigol amrywiol ar draws y sectorau.
Ymysg y rhai y cysylltwyd â nhw yn yr ymgyrch recriwtio brys yr oedd pobl sydd wedi ymddeol ac eraill a oedd wedi gadael eu sector i ddilyn gyrfa mewn maes gwahanol.
Anfonwyd tua 5,000 o lythyrau mewn sawl sector ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried y ffordd orau o fanteisio ar sgiliau myfyrwyr sy’n awyddus i gyfrannu.
Gallai hyd at 3,760 o fyfyrwyr ledled Cymru (myfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwragedd, proffesiynau perthynol i iechyd, parafeddygaeth a gwyddonwyr gofal iechyd) hefyd fod ar gael i weithio. Nhw fydd yn dewis cynnig gwneud hynny a bydd eu rolau’n dibynnu ar ble maent arni yn eu hyfforddiant.
Caiff niferoedd eu cofnodi’n wahanol ar draws cyrff rheoleiddio ond cadarnhawyd bod 416 o nyrsys a bydwragedd wedi cynnig helpu yn yr wythnos gyntaf. Mae dros 20% o weithwyr gofal iechyd perthynol i iechyd a gwyddonwyr hefyd wedi cofrestru eu diddordeb.
Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yng Nghymru wedi ailgofrestru 700 o feddygon yn awtomatig ac mae 348 o fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth wedi’u cynnwys ar y gofrestr dros dro gyda’r dewis i’w tynnu eu hunain oddi arni. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd wedi anfon 850 o lythyron at rai a oedd wedi’u cofrestru â’r corff o’r blaen.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Mae’n codi calon rhywun yn fawr o weld yr holl bobl sy’n barod i ddychwelyd i’w gwaith blaenorol, pan fo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ein gwlad ar eu mwyaf anghenus. Mae’n ardderchog gweld cynifer o bobl yn dangos gwytnwch ac ymroddiad mewn cyfnod na welwyd mo’i debyg o’r blaen.
“Mae hefyd yn enghraifft dda o gydweithio ar draws y sectorau hyn ac fe hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud hynny’n bosibl.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru, Albert Heaney:
“Hoffwn ddiolch o galon i’n gweithlu gofal cymdeithasol rhagorol; i’n gofalwyr, ein gweithwyr cymdeithasol, ein nyrsys, ein therapyddion galwedigaethol, ein rheolwyr, ein staff cymorth, ein myfyrwyr a’n gwirfoddolwyr.
“I bawb sydd eisoes wedi mynegi diddordeb mewn dychwelyd i faes gofal cymdeithasol, neu sy’n paratoi i wneud hynny: diolch i chi am ateb yr alwad hon pan fo ar y genedl eich angen chi. Bydd y capasiti ychwanegol hwn o fudd mawr i’r gweithlu ymroddgar, rhagorol presennol, ac yn y pen draw i’r bobl y maent yn darparu gofal a chymorth iddynt.”
Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Jean White:
“Diolch yn fawr i bawb a wirfoddolodd i roi eu henw yn ôl ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ystod awr gyfyng ein gwlad. Rydych chi wedi gwneud penderfyniad anhunanol i’n helpu yn ystod y pandemig COVID-19 ac am hynny rwy’n eich clodfori ac yn diolch i chi.
“Mae pob un yn ein gweithlu yn gwneud cyfraniad aruthrol at iechyd, gofal cymdeithasol a lles ein poblogaeth.”