English icon English
First Minister Eluned Morgan MS (Landscape) cropped cropped cropped

Croeso i gytundebau gwynt ar y môr sy’n dod â miloedd o swyddi i Gymru – Prif Weinidog

First Minister welcomes major offshore wind contracts, bringing thousands of jobs for Wales

Mae dau brosiect gwynt ar y môr yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau yn y caffaeliad diweddaraf gan Lywodraeth y DU, gan nodi cam sylweddol ymlaen ar gyfer uchelgeisiau ynni adnewyddadwy Cymru a dod â miloedd o swyddi newydd.

Mae prosiect gwynt sefydlog Awel y Môr yng ngogledd Cymru a’r prosiect gwynt arnofiol Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro wedi derbyn cytundebau drwy’r rownd ddyrannu Contractau am Wahaniaeth.

Disgwylir i’r prosiectau ddarparu manteision economaidd sylweddol i Gymru. Mae datblygiad Awel y Môr ar ei ben ei hun yn debygol o greu tua 2,000 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu, ynghyd â 50 o swyddi ychwanegol i gefnogi’r prosiect gyda RWE. Disgwylir i brosiect Erebus gefnogi dros 600 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a 500 o swyddi drwy’r gadwyn gyflenwi.

Bydd prosiect Erebus yn helpu i sefydlu Cymru fel arweinydd ym maes y diwydiant gwynt arnofiol sy’n dod i’r amlwg.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:

“Rwy’n falch iawn bod dau brosiect gwynt ar y môr Cymreig wedi sicrhau cytundebau yn y caffaeliad diweddaraf gan y DU. Mae hyn yn dangos sut mae Cymru mewn sefyllfa gadarn i adeiladu ar ei chapasiti presennol o ran ynni adnewyddadwy ac elwa o’r prosiectau newydd hyn sy’n dod â nifer fawr o swyddi o ansawdd uchel a manteision ehangach i’r economi.

“Bydd y prosiect gwynt arnofiol oddi ar arfordir Sir Benfro yn sbarduno diwydiant gwynt arnofiol newydd i Gymru ac, ynghyd ag ehangu cynhyrchiant gwynt sefydlog yng ngogledd Cymru, bydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, yn helpu i leihau biliau ac yn hybu ein diogelwch ynni.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae Cymru mewn sefyllfa wych i gefnogi’r diwydiant gwynt arnofiol newydd, ynghyd â’r prosiectau gwynt sefydlog ychwanegol.

“Byddwn yn gweithio gyda’r cwmnïau hyn i sicrhau bod ein porthladdoedd yn cael eu defnyddio, a bod ein cadwyni cyflenwi mewn sefyllfa i gefnogi’r diwydiant hwn. Rydym yn gwybod bod gennym y gallu a’r sgiliau eisoes – mae ein cynnig yn cael ei gydnabod yn fyd-eang, a byddwn yn parhau i adeiladu ar hynny.”

Nodiadau i olygyddion

  • The Awel y Mor project is expected to create around 2,000 jobs during the construction phase, including in the supply chain. An additional 50 roles are expected to support delivery with RWE.
  • Analysis by the Offshore Renewable Energy Catapult indicates the Erebus project will support over 600 direct FTE-years during construction and 500 indirect FTE-years through the supply chain.
  • Contracts for Difference (CfD) is the UK Government's main mechanism for supporting new low-carbon electricity generation.