English icon English
8-54

Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500m wedi’i lansio ar gyfer Cymru

New £500m Economic Resilience Fund launched for Wales

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £500m heddiw i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi Cymru, busnesau ac elusennau sy’n profi gostyngiad enfawr mewn masnachu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Nod y Gronfa Cadernid Economaidd yw cau bylchau’r cynlluniau cefnogi sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl.

Bydd y gronfa newydd gwerth £500m yng Nghymru yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar y rhai nad ydynt wedi elwa eisoes o’r grantiau coronafeirws sydd wedi’u cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r cyflymder y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar ein heconomi ni’n rhyfeddol. Nawr, yn fwy nag erioed, rhaid i’r llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r economi a busnes.

“Mae cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU wedi darparu’r warchodaeth y mae ei gwir angen i lawer o weithwyr a’u teuluoedd yng Nghymru. Dim ond Llywodraeth y DU sydd â’r dylanwad macro-economaidd ac ariannol i leihau’r difrod enfawr y bydd y cau economaidd hwn yn ei wneud i economi’r DU.

“Ond hyd yn oed gyda’r ymyriadau hyn, mae elfennau o’r economi, busnesau ac elusennau yng Nghymru’n wynebu ansolfedd oherwydd na all costau sefydlog a gweithredol – rhent, costau cyflog gweddillol, ffioedd prydlesu ar gyfer offer hanfodol a chynnal gweithredoedd – gael eu talu yn ystod yr argyfwng hwn.

“Rydyn ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth Cymru i lenwi’r bylchau a chefnogi’r economi a busnesau yn ystod y cyfnod eithriadol anodd yma.

“Mae’r pecyn yma o gefnogaeth yn rhoi sicrwydd pellach i gwmnïau, elusennau a mentrau cymdeithasol y byddwn ni’n gwneud hynny – eu helpu i ddelio gydag effaith economaidd y pandemig.”

Mae’r gronfa gwerth £500m yn cynnwys dwy brif elfen:

  • Bydd cronfa newydd Banc Datblygu Cymru gwerth £100m ar gael i gwmnïau sy’n profi problemau llif arian o ganlyniad i’r pandemig a bydd yn darparu benthyciadau sydd rhwng £5,000 a £250,000 gyda chyfraddau llog ffafriol.
  • Hefyd bydd busnesau’n gallu elwa o bot argyfwng gwerth £400m yn darparu’r canlynol:
  1. Grantiau o £10,000 ar gyfer micro-fusnesau sy’n cyflogi hyd at naw o bobl. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff. Bydd y busnesau cymwys yn gallu gwneud cais erbyn canol mis Ebrill.
  2. Grantiau o hyd at £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig gyda rhwng 10 a 249 o gyflogeion. Bydd y busnesau cymwys yn gallu gwneud cais o’r wythnos nesaf ymlaen.
  3. Cefnogaeth i gwmnïau mwy yng Nghymru, sydd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd allweddol i Gymru. Bydd yr elfen hon yn agored i fusnesau cymwys yn ystod y pythefnos nesaf.

Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500m yn cefnogi busnesau sy’n cael eu gorfodi i roi’r gorau i fasnachu dros dro – i fynd ati i “aeafgysgu” – neu sydd angen cefnogaeth llif arian i addasu i ffordd o weithio o bell.

Mae’r gronfa newydd yn adeiladu ar y pecyn cefnogi busnes gwerth £1.4bn sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar Fawrth 18, sy’n darparu gwyliau gostyngiad ardrethi am flwyddyn gyfan i bob eiddo heblaw am yr eiddo mwyaf yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden a chymorth grant i fwy na 70,000 o fusnesau bach.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Bydd y pecyn gwerth £500m hwn yn darparu cymorth hanfodol pellach i filoedd o gwmnïau a sefydliadau’r trydydd sector, sydd fel rheol yn dibynnu ar incwm masnachu.

“Rydyn ni wedi bod yn glir iawn, rydyn ni yma i gefnogi’r economi a’r gymuned fusnes. Rydyn ni’n sefyll gyda phob busnes a gweithiwr. Gyda’n gilydd fe ddown ni drwy’r cyfnod eithriadol heriol yma.”

Nodiadau i olygyddion

I fod yn gymwys am grantiau o’r Gronfa Cadernid Economaidd newydd, bydd rhaid i fusnesau fodloni rhai meini prawf penodol, gan gynnwys cyflogi staff, bod wedi’u cofrestru ar gyfer TAW a bod â throsiant sydd wedi’i effeithio gan bandemig y coronafeirws. Bydd manylion llawn ar gael pan fydd y ceisiadau’n agor.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cefnogi busnes gwerth £1.4bn ar Fawrth 18.

  • Mae’n darparu i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru wyliau ardrethi busnes am flwyddyn gyfan yn 2020-21, ar gyfer pob eiddo heblaw am yr eiddo mwyaf;
  • Grant gwerth £25,000 i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethadwy sydd rhwng £12,001 a £51,000;
  • Grant gwerth £10,000 i bob busnes sy’n gymwys am ostyngiad ardrethi i fusnesau bychain sydd â gwerth trethadwy o £12,000 neu lai.

Bydd mwy na 70,000 o fusnesau’n derbyn y grantiau hyn, a fydd yn cael eu dosbarthu drwy awdurdodau lleol o’r wythnos yma ymlaen. Nid oes raid i fusnesau ymgeisio am y grantiau hyn. Mae gwybodaeth am sut gall busnesau wneud cais ar gael ar wefan Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws