Cronfa gwerth £1 filiwn i ofalwyr i nodi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus
£1 million fund for carers to mark launch of public consultation
Mae cronfa newydd gwerth dros £1m i helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi â phwysau ariannol COVID-19 wedi’i chyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd heddiw [Dydd Mawrth 20 Hydref].
Yn agored i ofalwyr ar draws Cymru, bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn darparu grantiau o hyd at £300 ar gyfer ystod o hanfodion, gan gynnwys; bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwyn, neu ddyfeisiau electronig fel gliniaduron i gael mynediad i gymorth a gwasanaethau.
Mae tua 55,300 o bobl yng Nghymru yn cael lwfans gofalwyr ac mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod bron i 40% o ofalwyr yn pryderu ynghylch eu sefyllfa ariannol.
Mae heddiw hefyd yn nodi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun cenedlaethol newydd i ofalwyr, gan amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru’n cynnig y bydd yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i gryfhau ei blaenoriaethau i adlewyrchu pob agwedd o fywyd gofalwr.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r fyddin enfawr, ymroddedig o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd wedi gwneud cymaint i ofalu am eraill yn ystod y pandemig.
“Rydym wedi gweld gofalwyr di-dâl yn gweithio oriau hirach ac mae’r pandemig wedi ei gwneud yn anoddach i ofalwyr ymdopi gyda’u swyddogaeth ofalu ochr yn ochr â byw eu bywyd nhw eu hunain. Mae rhai yn ei chael yn anodd ymdopi gyda chostau ychwanegol COVID-19 a nod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr yw helpu i liniaru peth o’r pwysau ychwanegol, diangen hwn.
“Rwy’n edrych ymlaen at siarad gyda gofalwyr a’u cynrychiolwyr fel rhan o’n hymgynghoriad ar gynllun cenedlaethol newydd. Rwy’n annog unrhyw un sy’n gofalu i gyflwyno eu barn.”
Bydd y cymorth ariannol yn cael ei roi drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sydd wedi bod yn gweithio drwy gydol y pandemig i gefnogi gofalwyr di-dâl.
Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Mae’r cyhoeddiad am gyllid heddiw yn gam pwysig ymlaen i gydnabod a mynd i’r afael â’r pwysau gwirioneddol a chynyddol sy’n wynebu miloedd o ofalwyr di-dâl ar draws Cymru.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol a negyddol ar iechyd, llesiant a diogelwch ariannol llawer o ofalwyr. Wrth inni nesáu at yr hyn a fydd yn siŵr o fod yn aeaf heriol iawn ar gyfer y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ein cymunedau a phobl ar draws Cymru, rydym yn falch iawn bod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’n Partneriaid Rhwydweithio yn gallu gweithredu’n gyflym i sicrhau’r grantiau hanfodol hyn ar gyfer y rhai sydd fwyaf o’u hangen.
“Rydym yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr sy’n dioddef caledi ariannol ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod yr holl ofalwyr yn cael y gydnabyddiaeth a’r cymorth y maent eu hangen.”
Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gael hyd at 31 Mawrth 2021 a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan ynglŷn â sut i wneud cais yn carers.org/wales