Cronfa i helpu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau digidol gwell
Fund to help local authorities to deliver better digital services
Bydd cronfa un filiwn o bunnoedd ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn i bobl allu manteisio ar wasanaethau llywodraeth leol ar-lein yn haws.
Nod Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol yw helpu awdurdodau lleol i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy dechnoleg ddigidol. Cafodd ei sefydlu yn 2018 ac mae wedi cael ei haddasu at ddibenion eraill yn ystod y pandemig coronafeirws i sicrhau bod ceisiadau sy’n ymateb i’r sefyllfa bresennol yn cael blaenoriaeth.
Mae’r gronfa yn darparu grantiau i helpu awdurdodau lleol i gydweithio i ddatrys problemau ar y cyd; cefnogi gwaith sydd o fudd i bob awdurdod lleol; a datblygu safonau a gwasanaethau cyffredin ym mhob cwr o Gymru.
Wrth gyhoeddi bod y gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau, dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Nid yw arloesi digidol yn rhywbeth newydd. Mae’n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd yng Nghymru. Ond mae coronafeirws wedi golygu ein bod ni wedi cymryd camau mawr ymlaen dros y misoedd diwethaf. Rydyn ni wedi dechrau gwneud llawer mwy ar-lein – o siopau bwyd yn wythnosol i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.”
“Mae hefyd wedi newid y ffordd y mae pobl yn disgwyl gallu ymwneud â busnesau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n hanfodol felly ein bod ni’n gallu ymateb i’r galw hwn a gweithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cyhoedd.”
DIWEDD